Pan gyhoeddodd FIFA fod cwpan y byd yn mynd i Qatar, bu ymchwiliad i’r ffordd y bu i’r penderfyniad gael ei wneud. Roedd cyhuddiadau yn cael eu gwneud o lwgrwobrwyo. Ychydig feddyliom ni bryd hynny y byddai tîm pêl-droed Cymru yn llwyddo i gyrraedd y brig a dyhead pob cefnogwr oedd gallu fforddio i deithio fel rhan o’r Wal Goch.

Yn ddiweddar, daeth yn amlwg i nifer fod cymariaethau rhwng yr Urdd a FIFA. Nid ymgynghorodd yr Urdd (i mi wybod) â’r un arweinydd Aelwyd a dyfarnwyd y wobr sylweddol o drip Qatar i Aelwyd Dyffryn Clwyd – Aelwyd lwyddiannus newydd. Anwybyddwyd cyfraniad degawdau o gystadlu ar y nos Sadwrn yr hen Aelwydydd sydd ‘Yma o Hyd’. Fel cyn-Arweinydd Aelwyd a thad i aelodau presennol, rwyf yn gwybod yn iawn pa mor anodd yw hel yr aelodau at ei gilydd. Dwi’n cwyno – ond meddyliwch am yr arweinyddion druan sydd wedi mynd ar sawl achlysur er cadw traddodiad ac i gefnogi’r mudiad – doedden nhw ddim yn barod am y gic yma fwy na finnau.

Ond i wneud pethau’n waeth ac yn llawer mwy pwdr

1. Dydi pawb aeth i Qatar yn enw’r Urdd ddim yn aelodau (neu o leiaf doedden nhw ddim pan ddewiswyd y côr i deithio).

2. Dydi rhai deithiodd ddim wedi canu hefo Aelwyd Dyffryn Clwyd ym Mhrifwyl 2022. (Rwyf yn eithaf sicr nad yw rhai wedi cystadlu yng nghystadlaethau’r Aelwydydd ar y nos Sadwrn).

3. Mae rhai deithiodd dros oed yr Urdd.

Onid oedd hwn yn gyfle gwych i gael cynrychiolaeth o bob Aelwyd drwy Gymru?

Cic arall i draddodiad – “duwcs, mae nhw wedi cystadlu yn ddi-dor ers degawdau, mi wnawn eto” – ydach chi yn hollol siŵr y tro yma?

Wylit, Wylit O.M., Wylit waed pe gwelit hyn.