Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud bod Joe Allen yn holliach i herio Iran fore Gwener (Tachwedd 25), ond doedd ei enw ddim ymhlith yr unarddeg pan gawson nhw eu cyhoeddi.
Mae Cymru eisoes wedi cipio pwynt ar ôl gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau, a byddai buddugoliaeth dros Iran – gafodd eu curo o 6-2 gan Loegr yn eu gêm agoriadol – yn hwb sylweddol i’w gobeithion o gymhwyso ar gyfer y rowndiau olaf.
Roedd Rob Page hefyd wedi wfftio’r posibilrwydd y gallai’r capten Gareth Bale orffwys ar gyfer y gêm yn erbyn y tîm gwannaf yn y grŵp, ac fe fydd e felly yn torri record Chris Gunter, sydd wedi ennill 109 o gapiau, wrth ennill cap rhif 110.
Un arall sy’n chwarae yw Kieffer Moore, oedd wedi creu argraff o’r fainc yn y gêm agoriadol wrth roi ail wynt i Gymru.
‘Barod i fynd’
“Daeth Joe trwy ei brawf ffitrwydd, felly mae hynny’n newyddion da,” meddai Rob Page.
“Mae e’n ffit ac yn barod i fynd.
“Roedden ni i gyd yn poeni amdano fe achos graddau’r anaf.
“Roedd e’n cadw torri i lawr.
“Roedd yn rhaid i ni fwrw targedau ar hyd y ffordd, ac maen nhw wedi bwrw pob targed.
“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon nhw ei wthio fe i 100%. Roedd hynny’n gambl.
“Pe bai e wedi torri i lawr, byddai e wedi bod allan o’r twrnament yn llwyr.”
🏴🇮🇷 CYMRU XI
On or off the pitch, Together we are Stronger! #ArBenYByd | #FIFAWorldCup | #TogetherStronger pic.twitter.com/kFM52YIdiR
— Wales 🏴 (@Cymru) November 25, 2022