Mae deg dyn Cymru wedi colli o 2-0 yn erbyn Iran yng Ngrŵp B yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Cafodd y golwr Wayne Hennessey ei anfon o’r cae am drosedd ar ôl 85 munud, a daeth dwy gôl yr Iraniaid yn hwyr yn ystod amser ychwanegol.

Hennessey yw’r trydydd golwr erioed yn hanes Cwpan y Byd i weld y cerdyn coch.

Rhoddodd Rouzbeh Cheshmi ei dîm ar y blaen ar ôl 98 munud, a dyblon nhw eu mantais drwy Ramin Rezaeian dair munud yn ddiweddarach.

Mae’r canlyniad yn golygu bod rhaid i Gymru guro Lloegr yn eu gêm olaf, ac maen nhw ar waelod y grŵp ar hyn o bryd.

Manylion

Daeth tîm Rob Page i mewn i’r gêm gyda phwynt ar ôl gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau, ac fe fydden nhw wedi bod yn targedu’r ornest yn erbyn Iran fel un y gallen nhw fod wedi’u hennill cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr.

Daeth gôl fawr Rouzbeh Cheshmi o ugain llathen cyn i Ramin Rezaeian fanteisio ar wrthymosodiad i gau pen y mwdwl ar y gêm, wrth i Iran lygadu’r rowndiau olaf am y tro cyntaf erioed.

Gallai Cymru’n hawdd iawn fod wedi mynd ar ei hôl hi’n gynnar yn y gêm yn sgil camgymeriad gan Connor Roberts a darodd y bêl ar gyfeiliorn ar draws y cae, a bu’n rhaid troi at VAR i weld bod yna gamsefyll cyn i Ali Gholizadeh rwydo yn ystod y chwarter awr agoriadol.

Ychydig iawn o gyfleoedd gafodd Iran wedyn tan y munudau olaf.

Daeth cyfle gorau Cymru drwy Kieffer Moore, oddi ar groesiad gan Connor Roberts, ac fe darodd e’r foli yn erbyn y golwr Hossein Hosseini.

Ar ddechrau’r ail hanner, fe wnaeth Sardar Azmoun a Gholizadeh ill dau daro’r postyn cyn i Hennessey ddal ei afael ar y bêl ar y trydydd cyfle.

Roedd Cymru dan bwysau yn y munudau olaf wrth iddyn nhw geisio’r fuddugoliaeth, a rhuthrodd Hennessey allan a chicio Mehdi Taremi wrth geisio clirio’r bêl.

Cerdyn melyn gafodd y golwr i ddechrau, ond wrth i’r dyfarnwr droi at VAR, fe newidiodd ei benderfyniad ac roedd Hennessey ar ei ffordd oddi ar y cae, gyda Danny Ward yn cymryd ei le yn y gôl ac Aaron Ramsey, un oedd yn dawel yn ystod y gêm, yn aberthu ei le.

Ychydig iawn o bethau positif fydd Cymru’n gallu eu cymryd i ffwrdd o’r gêm gyda nhw, ond y peth mwyaf yn sicr yw ymddangosiad cyntaf Joe Allen ar y cae ers deufis ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.