Mae trefnydd Cwrs Adfent Tregarth rhwng Bethesda a Bangor yn dweud ei bod hi “eisiau mynd at wraidd a thraddodiadau stori’r Nadolig a dangos sut mae dal yn bwysig i ni heddiw oherwydd rydym wir angen gobaith ar hyn o bryd”.

Bydd y Cwrs Adfent yn rhedeg am 6.30 bob nos Fawrth rhwng Tachwedd 29 a Rhagfyr 20, pan fydd pedair cannwyll yn cael eu cynnau, un bob wythnos, i nodi pedwar cam y daith tuag at y Nadolig.

Mae ystyr i bob cannwyll, a phob un yn cynrychioli rhywbeth gwahanol.

Bydd goleuo’r canhwyllau’n fan cychwyn i’r drafodaeth, er enghraifft mae un gannwyll yn cynrychioli’r hen broffwydi o’r Testament Newydd.

Bydd bws trydan Partneriaeth Ogwen ar gael am £3 i fynd o Fethesda ac yn ôl, ond bydd gweddill y noson yn rhad ac am ddim, gyda phaned a chacen, ac mae’r Parchedig Sara Roberts yn dweud bod croeso i bawb ac mae’n gofyn i bobol roi gwybod iddi fod ganddyn nhw ddiddordeb.

‘Wir angen gobaith ar hyn o bryd’

Yn y gymdeithas sydd ohoni ac yn yr oes fodern, ydi stori’r Nadolig a Christnogaeth yn berthnasol i ni heddiw? Ydy, yn ôl y Parchedig Sara Roberts.

“Dwi eisiau mynd wrth wraidd a thraddodiadau stori’r Nadolig a dangos sut mae dal yn bwysig i ni heddiw oherwydd rydym wir angen gobaith ar hyn o bryd,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n teimlo efallai mai hynny yw un o’r prif bethau sy’n effeithio ar bobol – anobaith.

“Mae gymaint o broblemau yn y byd a phobol yn teimlo bod pethau yn heriol ar hyn o bryd.

“Maen nhw’n unig ac mae problemau ariannol a phethau felly.

“Rydym ni gyd yn gyfarwydd â stori Nadolig ond ddim yn deall ystyr bob dim oedd yn mynd ymlaen yn y stori yna, a’r ffaith bod Duw wedi dod ymhlith ni, i fod yng nghanol ni.

“Mae honno’n neges sydd dal angen cael ei chlywed.

“Roedd yn dod ar ôl cyfnod hir.

“Roedd y bobol yn y stori wreiddiol wedi bod yn aros yn hir amdan y Meseia gobaith.

“Roedden nhw hefyd yn byw mewn tlodi o dan system oedd yn greulon.

“Roedd pobol yn disgwyl am oleuni, gobaith yn y tywyllwch.

“Mae’n stori mor berthnasol i beth mae pobol angen ei glywed.

“Efallai mai prif neges Cristnogaeth yw Duw Cariad Yw.

“Mae o’n caru ni i gyd. Mae o eisiau bod efo ni.

“Mae o eisiau bod mewn perthynas â ni a bod modd dod i adnabod Duw a charu a gwasanaethu ein gilydd trwy wneud hynny.”

Croeso i’r rhai sydd ddim yn Gristnogion

Beth am bobol sydd ddim yn dod o gefndir Cristnogol?

“Rwy’n agored i unrhyw un sydd eisiau dysgu ychydig bach mwy ac yn agored eu meddwl sydd eisiau dysgu mwy am etifeddiaeth ni, pam rydym yn credu beth rydym yn credu a pham fod o dal yn gallu bod yn rywbeth rydym angen ei glywed heddiw,” meddai wedyn.

“Mae dal rhywbeth pwysig yno fo bysa’n gallu cysylltu efo rhywun sy’n teimlo’n unig heddiw neu yn ofnus neu yn drist neu yn meddwl sut rydym am ymdopi efo’r byd fel ac mai.

“Dwi’n meddwl mae yna rhywbeth yn hynny i bawb.

“Mae yna groeso i rywun sydd eisiau dod efo ni.

“Rwyf wedi cael un neu ddau yn dweud bod ganddynt ddiddordeb achos bod nhw eisiau dysgu mwy am neges y Nadolig ac efallai neges Cristnogaeth.

“Maen nhw’n gwybod ychydig amdano fo oherwydd os ydach chi’n tyfu fyny mewn gwlad yn y Gorllewin, rydych yn dueddol i ddeall rhywbeth ohono fo ond efallai ddim y llawn ystyr.

“Maen nhw efo diddordeb mewn dysgu beth ydi o go iawn.

“Roeddwn yn meddwl y byddai’r cwrs hwn ddim ond rhyw un noson am bedair wythnos yn rhoi cipolwg bach ar gefndir a hanes, ac egluro ychydig beth mae pobol yn credu a pham a lle mae’r stori wedi dod.

“Mae amser i ymdawelu am ychydig, mae cyn y Nadolig yn gallu bod mor brysur.

“Mae pobol yn brysio o gwmpas, maen nhw’n poeni, stress-io, yn trefnu pethau.

“Mae’r amser paratoi cyn y Nadolig rydym yn galw’n Adfent yn gyfle i stopio brysio o gwmpas am ychydig a meddwl am beth rydym yn aros, beth rydym yn paratoi, beth sydd am ddigwydd.

“Rydym angen meddwl, ydym yn credu yn hyn?

“Mae cyfle i drafod, dysgu ychydig a thrafod efo’n gilydd a goleuo cannwyll, efallai gwario’r adfent yn gwneud rhywbeth gwahanol i’r arfer.”