Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i’r afael â charthion sy’n cael eu gollwng i afonydd Cymru, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Dim ond dwy flynedd sydd yn weddill i achub afon Gwy rhag dod yn “fiolegol farw”, ac mae’n amser gweithredu, meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Dŵr Cymru wedi derbyn £2.4m – gan gynnwys £808,000 mewn tâl ychwanegol – ond maen nhw’n parhau i bwmpio carthion heb eu trin i afonydd, yn ôl y blaid.
Yn 2020, fe wnaeth y draeniau carthion wrth ymyl afonydd a nentydd sy’n llifo i afon Gwy ryddhau carthion 400,000 o weithiau.
Mae hynny’n golygu bod carthion wedi llifo i’r afonydd a’r nentydd am gyfanswm o 17m o funudau – sydd gyfystyr â 33 mlynedd.
‘Angen newid ar unwaith’
Mewn dadl yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Jane Dodds, sy’n cynrychioli Canol a Gorllewin Cymru yn y Senedd, atgoffa’r Blaid Lafur fod ganddyn nhw’r grym i fynd i’r afael â’r mater ym Mae Caerdydd.
Maen nhw wedi galw am wahardd penaethiaid cwmnïau dŵr rhag derbyn taliadau ychwanegol tan eu bod nhw’n mynd i’r afael â’r sefyllfa, ynghyd â galw am gael gwared ar ffosffad o afonydd ac am roi mwy o arian i Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu’r rheoliadau.
“Fel rhywun sy’n byw yn y Gelli Gandryll ac sy’n nofio yn afon Gwy yn ystod yr haf, dw i’n arbennig o bryderus am y problemau gydag ansawdd dŵr a llygredd,” meddai Jane Dodds.
“Mae ein hafon, trysor cenedlaethol, wedi derbyn dwy flynedd nes ei bod hi’n cael ei datgan yn fiolegol farw, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod newidiadau’n cael eu gwneud, ac yn cael eu gwneud ar unwaith.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n warthus bod rheolwyr Dŵr Cymru’n parhau i dderbyn bonysau mawr ac yn parhau i wobrwyo’u hunan am eu methiannau ar lygredd dŵr.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru wahardd y bonysau hyn nesa bod y cwmnïau dŵr yn gwella ac yn rhoi diwedd ar ollwng carthion i’n hafonydd, llynnoedd a’n moroedd.”
Adolygiadau “ar y gweill”
Wrth ymateb i sylwadau Jane Dodds yn y Senedd, dywed Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, eu bod nhw wrthi’n cynnal nifer o adolygiadau ynglŷn â phwy sydd â pha gyfrifoldeb i’w wneud yn y maes.
Dywed hefyd eu bod nhw’n siarad ag awrdurdod rheoleiddio gwasanaethau dŵr Ofwat a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y mater yn rheolaidd, ac nad mater i Lywodraeth Cymru yw’r ffordd mae’r cwmnïau dŵr yn talu eu gweithwyr.
“Yr hyn sy’n fater i ni yw gwneud yn siŵr bod Ofwat, o dan gyfarwyddyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal â ninnau, yn rhoi cynllun ariannol ar waith sy’n caniatáu i’r cwmnïau hynny gael y staff cywir yn y lle cywir, ond yn bwysicach o lawer i gael y math cywir o fuddsoddiad cyfalaf i gywiro’r mathau o broblemau sydd gennym ni,” meddai.