Mae Ramblers Cymru wedi lansio ymgyrch i alw ar y cyhoedd i’w helpu i wella llwybrau a mynediad yng Nghymru.
Mae miliynau o bobol yn mwynhau cerdded yng Nghymru, gyda cherdded yn cael ei ffafrio fel y weithgaredd gorfforol fwyaf cyffredin gan y genedl o ran cerdded am hamdden (60%) a cherdded ar gyfer teithio (25%).
Yn fwy na 20,000 o filltiroedd o hyd, mae ein rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi mynyddoedd a rhostir, clogwyni a thir comin, caeau a chyrion trefol. Mae’n ein cysylltu â natur ac â’n gilydd.
Fodd bynnag, dydy cyflwr ein rhwydwaith llwybrau (Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddim yn adlewyrchu poblogrwydd cerdded.
Mae Ramblers Cymru yn amcangyfrif fod oddeutu 50% o’n llwybrau yn anhygyrch, gan atal pobol rhag mwynhau’r manteision iechyd a lles hollbwysig o gysylltu â byd natur.
Yn sgil hyn, mae Ramblers Cymru wedi lansio apêl Cyllido Dorfol yn benodol ar gyfer gwella’r llwybrau drwy ei brosiect Llwybrau i Lesiant a gwaith mynediad arall.
Maen nhw’n galw am gefnogaeth gan y cyhoedd i weithredu a helpu i roi cerdded wrth galon ein cymunedau ac o ran adferiad wedi Covid-19.
Galw am gyllid teg
Ochr yn ochr â’r ymgyrch hon, mae Ramblers Cymru hefyd yn parhau â’i galwad ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid teg ar gyfer y rhwydwaith llwybrau.
Mae’r addewid eisoes wedi casglu dros 1500 o lofnodwyr ac yn dal yn agored i chi ychwanegu eich llais.
“Ein llwybrau yw’r pyrth i’n cymunedau, maent yn ein helpu i gadw’n heini ac yn iach a’n cysylltu â’n mannau gwyrdd a’n natur,” meddai Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru.
“Yn anffodus, yn aml maen nhw’n cael eu tanbrisio a dim yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae diffyg buddsoddiad a gofal yn ei gwneud hi’n amhosib i lawer ohonyn nhw gael eu defnyddio.
“Yn Ramblers Cymru rydyn ni eisiau bod yn rhan o’r ateb, mae ein timau cynnal a chadw llwybrau anhygoel a phrosiect Llwybrau i Lesiant sy’n gweithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau amgylcheddol yn gwneud gwahaniaeth, ond mae angen cefnogaeth y cyhoedd i wneud mwy, fel nad ydym yn colli’r llwybrau hyn, ond yn hytrach yn eu hamddiffyn a’u mwynhau ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”