Mae’r Urdd wedi amddiffyn eu penderfyniad i fynd i Qatar, er gwaethaf record hawliau dynol y wlad.
Yn ôl Prif Weithredwr y mudiad ieuenctid, Sian Lewis, mae’r ymweliad yn “gyfle i rannu gwerthoedd Cymru, bod yn rhan o drafodaeth ac ymuno â chymuned fyd-eang”.
Ers i’r penderfyniad gael ei wneud i gynnal Cwpan y Byd yn Qatar, mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch y ffordd mae’r wlad yn trin gweithwyr o dramor, ac mae yna ofidion am y ffordd mae’r wlad y trin aelodau o’r gymuned LGBTQ+.
Mae llywodraethau, elusennau, ymgyrchwyr a chymdeithasau pêl-droed wedi lleisio pryderon am y nifer o weithwyr – nifer ohonynt yn dod o dramor – sydd wedi marw wrth i Qatar wario biliynau o ddoleri ar adeiladu stadia newydd sbon i gynnal gemau.
Mae’r awdurdodau yn Qatar yn mynnu mai ond tair marwolaeth “sy’n gysylltiedig â gwaith” sydd wedi bod ar safleoedd adeiladu stadia ers i’r gwaith ddechrau yn 2014 – a 37 yn rhagor o farwolaethau oddi ar y safleoedd nad ydynt yn “gysylltiedig â gwaith”, tra bod y Goruchaf Bwyllgor sy’n rhedeg y wlad yn mynnu fod lles gweithwyr yn flaenoriaeth.
Y llynedd, fe wnaeth y Guardian gyhoeddi bod 6,500 o weithwyr mudol o bum gwlad – India, Bangladesh, Pacistan, Sri Lanca a Nepal – wedi marw rhwng 2010 a 2020, gyda 69% o’r marwolaethau ymhlith gweithwyr Indiaidd, Nepali a Bangladeshi.
Yn y cyfamser, mae’r trefnwyr wedi dweud bod croeso i bob ymwelydd beth bynnag fo’u hil, crefydd, rhyw neu rywioldeb. Ond maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn disgwyl i’w cyfreithiau a’u diwylliant gael eu parchu.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae dau dîm o’r Urdd wedi mynd i Qatar i gynnal sesiynau chwaraeon, celfyddydol a diwylliannol gyda phlant mewn ysgol yn Doha.
‘Rhannu gwerthoedd Cymru’
Wrth ystyried pa mor addas ydy hi bod yr Urdd yn ymweld â’r wlad ag ystyried eu record ar hawliau dynol, y Prif Weithredwr ei fod yn “gyfle i’r Urdd gyfrannu a rhoi Cymru ar fap rhyngwladol y byd”.
“Mae cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cynnig llwyfan a chynulleidfa o dros 5 biliwn o bobl ar draws y byd i Gymru ac mae’r Urdd yn falch o gael y cyfle i gyfrannu drwy hyrwyddo ein gwlad, iaith a’n diwylliant ar lwyfan rhyngwladol,” meddai Sian Lewis wrth golwg360.
“Mae’r Mudiad yn annog ein pobl ifanc i fod lysgenhadon dros Gymru drwy wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau, ymestyn gorwelion a magu hunan-hyder.
“Drwy ymweld â Qatar rydym yn cymryd y cyfle i rannu gwerthoedd Cymru, bod yn rhan o’r drafodaeth ac ymuno â chymuned byd-eang.
“Dyma gyfle i’r Urdd gyfrannu a rhoi Cymru ar fap rhyngwladol y byd.
“Mae dau dîm o’r Mudiad wedi cynnal sesiynau chwaraeon, celfyddydol a diwylliannol hefo plant mewn ysgol yn Doha.
“Rydym yn gobeithio bydd y daith yn cynnig profiadau cadarnhaol i’n llysgenhadon ifanc ynghyd â’r cyfle i rannu gwerthoedd Cymru a’r Urdd o gyd-chwarae gan gynnig cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.”
‘Darganfod gwerthoedd tebyg’
Meddai staff yr Urdd, Llio Maddocks ac Erddyn Williams, ynghyd â’r llysgenhadon sydd wedi mynd ar y daith, mae’r daith wedi “cynnig gymaint o gyfleoedd ac uchafbwyntiau” i’r staff a’r llysgenhadon.
“Profiad bythgofiadwy oedd bod yn rhan o ddiwrnod rhyngwladol yr ysgol a gweld plant o gefndiroedd gwahanol wedi gwisgo’n draddodiadol – roedd sawl diwylliant gwahanol yn rhan o’r un ysgoll,” medden nhw.
“Roedd hi’n ddiddorol darganfod y gwerthoedd tebyg rhwng ein gwledydd ni i gyd, a ffeindio’r pethau positif sy’n ein huno rownd y byd.
“Braf hefyd oedd gweld y plant yn mwynhau sesiynau am Gymru. Yn y sesiynau yma byddai criw’r Urdd yn dysgu’r plant am ein hiaith, diwylliant a’n gwlad, gan hefyd roi’r cyfle iddynt ddysgu ychydig o Gymraeg.
“Roedd hi’n gyffrous gweld y diddordeb gan y plant, yn enwedig brwdfrydedd y merched am ein hymgyrch #FelMerch.
“Un diwrnod daeth rhai o’r plant i chwilio am dîm yr Urdd yn yr ysgol y diwrnod wedyn i ddangos i ni beth roeddent wedi ei gofio o’r sesiwn y diwrnod cynt.
“Uchafbwynt arall oedd clywed holl blant yr ysgol yn canu ‘Yma o Hyd’ ar yr iard ar ôl dysgu’r gân yn ein gweithdai – a hyd yn oed clywed bod rhai o’r disgyblion wedi penderfynu cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd ar ôl dysgu am ein hanes!”