Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ddirwyn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru i ben, gan gyhuddo’r ddwy blaid o borthi balchder a diffyg gweithredu.
Daw’r cyhuddiad flwyddyn ers sefydlu’r Cytundeb Cydweithio.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Adam Price wedi ildio’i rôl fel arweinydd gwrthblaid drwy sefydlu’r cytundeb â’r Prif Weinidog Mark Drakeford, a’i fod e’n cael breintiau o fewn a thu allan i’r llywodraeth.
Maen nhw’n dweud bod gwasanaethau cyhoeddus sy’n bwysig i bobol wedi cael eu hanwybyddu ar y cyfan, a bod y Cytundeb Cydweithio’n canolbwyntio’n bennaf ar faterion sydd o bwys y tu fewn i “swigen” Bae Caerdydd.
‘Un cynnig trychinebus ar ôl y llall’
“Flwyddyn ers y Cytundeb Cydweithio, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cyflwyno un cynnig trychinebus ar ôl y llall, o derfynau cyflymder awtomatig o 20m.y.a. i drethi twristiaeth i greu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd, nad ydyn nhw ddim ond ymhell oddi wrth ddymuniadau pobol Cymru ond eu hanghenion hefyd,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae blaenoriaethau pleidleiswyr wedi cael eu hanwybyddu’n llwyr, gyda rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn cynyddu mwy nag unrhyw beth welwyd yn unman arall ym Mhrydain, atal ymchwiliad Covid penodol i Gymru, a safonau ysgolion, gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chyflogau i gyd yn gostwng.
Mae’n dweud bod ei blaid yn barod i gefnu ar gyflwyno rhagor o wleidyddion, gan ganolbwyntio ar gynyddu cyflogau, mynd i’r afael â rhestrau aros hir ac adeiladu ffyrdd “er mwyn cael Cymru’n symud eto”.
Pryderon
Ymhlith pryderon y Ceidwadwyr Cymreig mae’r penderfyniad i gyflwyno terfyn cyflymder awtomatig o 20m.y.a. fyddai’n costio £32.5m ac yn tynnu £4bn allan o’r economi, meddai’r blaid, sydd hefyd yn cwyno nad yw’r penderfyniad yn cael ei wneud yn lleol.
Maen nhw’n dweud y byddai cyflwyno treth dwristiaeth yn rhoi un ym mhob saith o swyddi yn y fantol ac yn golygu bod llai o arian yn cael ei wario lle bo angen.
O ran prydau ysgol am ddim i bawb, maen nhw’n poeni y byddai’r cynllun yn bwydo plant pobol gyfoethog yn ogystal â’r rhai sydd mewn angen ac sydd ar y cyflogau isaf.
Maen nhw hefyd yn lladd ar Blaid Cymru ac effaith eu tro pedol ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) sy’n debygol o fod yn gostus i ffermwyr a chymunedau cefn gwlad.
O ran rheoliadau rhent, maen nhw’n dweud bod y polisi hwnnw’n golygu bod llai o bwyslais ar faterion eraill gan gynnwys amserau aros y Gwasanaeth Iechyd, yr angen am ymchwiliad Covid penodol i Gymru, safle Cymru yng nghynghreiriau addysg y Deyrnas Unedig a’r ffaith mai cyflogau Cymru yw’r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.
Dydyn nhw ddim chwaith yn rhoi pwyslais ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.
Yn hytrach, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig, maen nhw’n “benderfynol o fynd ar ôl creu 36 yn rhagor o Aelodau’r Senedd, awdurdod darlledu, a Chomisiwn Cyfansoddiadol”, gyda darlledu a’r Cyfansoddiad yn bwerau sydd wedi’u cadw gan San Steffan.
Maen nhw’n dweud y bydden nhw’n canolbwyntio ar ddiogelwch adeiladau, atal llifogydd, a bod yn sero-net erbyn 2035, tra eu bod nhw hefyd yn beirniadu’r diffyg craffu sy’n digwydd o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio.