“Stori ddoe yw niwclear”, medd dau fudiad gwrth-niwclear wrth ymateb i’r newyddion na fydd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu yn Nhrawsfynydd.

Yn 2022, dywedodd Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, fod ei lywodraeth yn ymchwilio i’r posibilrwydd o godi adweithydd niwclear bychan yno.

Ond does dim digon o le ar gyfer cymal cynta’r gwaith, yn ôl corff Great British Nuclear, gafodd ei sefydlu ganddyn nhw i gydlynu’r diwydiant.

Dydyn nhw ddim wedi diystyru’r posibilrwydd y gallen nhw adeiladu yno eto yn y dyfodol.

Ledled y byd, ynni adnewyddadwy sy’n mynd â hi ac mae’n denu buddsoddiadau masnachol enfawr, medd y mudiadau gwrth-niwclear.

Maen nhw’n dweud bod gwaith ymchwil o Brifysgol Harvard yn “dangos yn eglur fod modd i bob gwlad fod yn hunangynhaliol am ynni drwy ddefnyddio technolegau o’r fath – technolegau sy’n gweithio, yn rhatach na niwclear, ac maen nhw’n hygyrch”.

“Pam nad ydym ni yn rhan o’r Chwyldro Gwyrdd hwn, ac yn mynnu ei berchnogi er lles ein hardaloedd?”

‘Mwy o dwrw nag o daro’

“Disgynnodd y cen oddi ar lygaid y diwydiant niwclear,” medd mudiadau CADNO a PAWB mewn datganiad ar y cyd.

“O’r diwedd cydnabyddir fod mwy o dwrw nag o daro yn yr holl sôn am adeiladu gorsaf niwclear newydd ar safle’r hen atomfa.”

Mae mudiad CADNO wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud ei fod yn “codi cysgod anferth oddi ar ardal Trawsfynydd a thu hwnt”.

“Go brin fod yn rhaid ailadrodd y rhesymau dros wrthwynebu niwclear,” meddai Deilwen Evans ar ran y mudiad.

“Ond mae perygl, cost, gwastraff ymbelydrol yn rhai amlwg, heb sôn am y cyswllt efo arfau niwclear.

“Bellach, rhaid troi cefn ar yr adlais hwn o’r gorffennol, ac yn lle hynny chwilio am ffyrdd eraill o greu gwaith ac adfywio ein heconomi leol.

“Gwastraffwyd blynyddoedd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ar hyrwyddo atomfa, heb lwyddo i ddatrys y problemau cyflogaeth a chymdeithasol yn yr ardal.

“Methiant llwyr fu Parth Menter Eryri, a methiant pellach yw Cwmni Egino, sydd wedi derbyn £2miliwn o arian y trethdalwr drwy Lywodraeth Cymru yn 2023 – 2024, yn ogystal â £1,056,000 yn 20222-2023.

“Gallai’r fath arian fod wedi bod o gymorth i sawl un yn yr ardal sy’n byw mewn tai wedi eu hinsiwleiddio’n ddifrifol o wael, a gyda thrigolion lleol mewn tlodi tanwydd.

“Enghreifftiau yw ôl ffitio tai i leihau colli ynni (tua £35,000 i £45,000 yr un); darparu panelau solar a batris (tua £5,000 yr un); a hyd yn oed gynlluniau heidro bychan (tua £500,000 yr un).

“Mae’n hen bryd diddymu Cwmni Egino, ac yn ei le sefydlu cwmni sydd y tro hwn yn cael ei lywio gan arweinwyr lleol yn hytrach na phobol allanol o’r diwydiant niwclear.

“Mae pobol leol yn haeddu cael y cyfle – wedi’r cyfan, go brin y byddan nhw mor aflwyddiannus yn yr uchelgais o greu gwaith.

“Stori ddoe yw niwclear!”