Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr actor a pherchennog cwmni Jin Treganna, Mark Flanagan, sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae’n chwarae Jinx yn Pobol y Cwm ac yn byw yng Nghaerdydd…
Fel plentyn fues i’n lwcus i drafeilio eitha’ dipyn efo’n nheulu. Y gwyliau cyntaf dw i’n ei gofio oedd mynd i Tiwnisia – gwlad reit fach yng ngogledd Affrica. Gesh i fy nharo yn syth gan fwyd diarth – cebabs traddodiadol, llysiau wedi’u grilio ar y tân – ac efo’r ffaith, yn sgil hyn, nad oedd pawb ar draws y byd yn siopa yn Kwik Save. Oedd hyn nôl yn yr wythdegau ac, o be dw i’n gofio, oedd olew olewydd dal heb ddychwelyd i Gaernarfon ers i’r Rhufeinwyr adael felly oedd o’n brofiad arloesol.
Dw i’n hoffi gwylio rhaglenni trafeilio drwy lygaid cogydd proffesiynol – enghraifft arbennig ydi Anthony Bourdain. Y ffordd orau o brofi diwylliannau newydd ydi drwy fwyd, a ddysgish i hynny’n gynnar iawn. Byth ers y trip cynnar yna i Tiwnisia efo’r teulu dw i wedi bod yn reit anturus efo fy mwyd a dw i wrth fy modd yn trio cynhwysion newydd dw i erioed wedi profi o’r blaen.
Dw i’n reit ddisgybledig efo mwyd a fydda i’n gneud lot o ffastio. Mae’r we yn llawn gwybodaeth newydd dyddiau yma, ac ers iddyn nhw brofi bod cyfnodau hir heb fwyd yn ffordd o adnewyddu’r corff dw i wedi bod yn cadw at batrwm intermittent fasting. Weithiau dw i’n mynd dau neu dri diwrnod ar y tro heb fwyd. Fiw i mi gysylltu bwyd efo cysur! Mae’n cymryd ewyllys gref i lwyddo mynd dyddiau heb fwyd, yn enwedig pan mae gweddill fy nheulu’n dal i fwyta yn normal.
Dw i’n hoffi gwylio rhaglenni Chris Roberts ar S4C, fysa bwyta unrhyw beth mae o’n coginio yn sefyllfa ddelfrydol. Wnaeth o goginio buwch gyfa’ yn yr awyr agored yn defnyddio tân coed unwaith. Oedd o’n edrych yn anhygoel! Be oedd yn wych nath y dre gyfa’ troi allan a nath Chris fwydo pawb. I fi, dyma’r peth gorau am fwyd – y ffordd mae o’n tynnu pawb at ei gilydd.
Gesh i lysenw yn y gwaith blynyddoedd yn ôl – “Free lunch Flanny” – oherwydd dw i byth yn colli cyfle i gael rwbath am ddim! Yn y cae wrth ymyl ein cartref mae ‘na lot fawr a garlleg gwyllt yn tyfu yn y gwanwyn a fydda’i wastad yn mynd i lenwi’r rhewgell. Fyddai’n gneud batch o pesto garlleg gwyllt sy’n para am fisoedd. Ffordd hwylus i greu pryd diddorol os ‘da chi ar frys.
Gesh i rysáit arbennig am gyri cig oen gan Kenny Khan yng Nghaernarfon blynyddoedd yn ôl, a fyddai’n coginio hwn yn aml. Dw i’n hoff iawn o fwyd sbeislyd, a fydda’i wastad yn trio gwthio’r ffiniau. Llynedd yn Sbaen o’n i mewn bwyty Bangladeshi a wnesh i ofyn am y “Phaal”, cyri ofnadwy o boeth sydd yn gwneud i Vindaloo edrych fel Korma. Ddoth y manager allan a gofyn os o’n i’n siŵr! “It’s very hot, Sir”. Wel wir, dw i erioed wedi difaru penderfyniad fel hwnnw.
Mae fy nheulu i gyd (blaw fi) yn llysieuwyr, felly wnâ’i rannu pryd cyflym dw i’n coginio iddyn nhw – cennin, ffa a miso. Ffrio cennin mewn padall efo olew, halan a phupur, ychwanegu past miso ac ychydig o ddŵr, ffa i mewn am ychydig o funudau, leim a phersli i orffen. Syml ond bendigedig.