Mae’n amlwg fod Cymru a’r Alban wedi gwneud tipyn o lanast wrth ddewis prif weinidogion newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn y naill achos a’r llall, enillodd y buddugwyr o drwch blewyn dros wrthwynebwyr mwy cymeradwy a dawnus. Ac roedd y buddugoliaethau hyn dan gysgod amheuon cryf o weithredu annheg gan beirianwaith eu pleidiau.

Mae gwahaniaethau amlwg, wrth gwrs. Does dim rheswm dros beidio â chredu bod Humza Yousaf yn ddyn didwyll ac uniawn. Roedd hefyd wedi etifeddu sefyllfa amhosibl. Er mor llwyddiannus y bu Nicola Sturgeon am flynyddoedd, does dim amheuaeth iddi wneud ambell gamgymeriad difrifol yn nes at y diwedd a’i bod wedi gadael ei swydd o dan gwmwl.

Yng Nghymru, ar y llaw arall, does gan Vaughan Gething neb ond y fo’i hun i’w feio am yr helynt mae ynddo. Mae’n olynu prif weinidog uchel ei barch a adawodd ei swydd ar adeg o’i ddewis ei hun. Mae’r ffordd y derbyniodd Gething swm anferthol o arian gan droseddwr yn gwbl anfaddeuol, ac felly hefyd y ffordd y gwnaeth ei blaid fficsio’r etholiad iddo.

Ychydig dros flwyddyn a barhaodd Humza Yousaf fel prif weinidog. A oes lle i obeithio na fydd Vaughan Gething yn gwneud cystal? Pan gafodd ei ethol ddeufis yn ôl, roedd ei sefyllfa’n ymddangos yn ddiogel tan yr etholiad cyffredinol nesaf o leiaf. Mae’n debygol fod hynny’n dal yn wir ar hyn o bryd. Ar y llaw arall, pan fo ffynhonnell amheus o arian ei ymgyrch yn dechrau dod yn destun trafod ar lefel Brydeinig, gall ei sefyllfa ddirywio’n gyflym. Hefyd, mae’n dechrau cael ei feirniadu ar goedd gan rai aelodau o’i blaid ei hun.

Mae’n wir, wrth gwrs, nad ydi’r Torïaid mewn unrhyw sefyllfa i edliw unrhyw gyfraniadau amheus i bleidiau gwleidyddol. Eto i gyd, gallan nhw ddefnyddio achos Vaughan Gething fel ffordd o amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau Llafur. Pylu fydd unrhyw gyhuddiadau gan y Blaid Lafur o’r Torïaid fel pobol lwgr sy’n helpu eu ffrindiau tra bydd Vaughan Gething wrth y llyw.

Mae aelodau Plaid Cymru o Senedd Cymru hefyd wedi bod yn hallt eu beirniadaeth o Vaughan Gething yr wythnos yma. Eto i gyd, rhaid i Blaid Cymru sylweddoli eu bod mewn perygl difrifol o gael eu pardduo tra byddan nhw’n dal i gynnal eu partneriaeth â Llafur.

Partneriaeth wenwynig

Partneriaeth o fath arall sydd wedi bod yn faen melin am wddw’r SNP. Efallai nad chwalfa’r bartneriaeth wenwynig â’r Blaid Werdd yw’r broblem yn gymaint, ond cychwyn y bartneriaeth yn y lle cyntaf.

Yn yr etholiad am olynydd i Nicola Sturgeon flwyddyn yn ôl, un o’r dadleuon a oedd yn cael eu defnyddio yn erbyn Kate Forbes, prif wrthwynebydd Humza Yousaf, oedd y byddai ei hethol wedi arwain at chwalu’r glymblaid. Mae bellach yn amlwg y byddai’n llawer gwell pe bai ychydig yn fwy o aelodau’r SNP wedi sylweddoli’r angen am newid trywydd bryd hynny.

Un o’r pynciau y gwnaeth Kate Forbes safiad yn eu cylch oedd yn erbyn y Ddeddf Adnabod Rhywedd [Gender Recognition Act], achos a brofodd i fod mor drychinebus i’r SNP. Deddf mor sylfaenol ddiffygiol fel bod treisiwr a oedd yn honni ei fod wedi troi’n ddynes yn ei defnyddio i fynnu’r hawl i fynd i garchar merched (yn y gobaith o dreisio rhagor o ferched, mae’n siŵr). Dylai hynny ynddo’i hun fod wedi bod yn ddigon o reswm i daflu’r ddeddf honno i’r bin sbwriel heb feddwl dim pellach.

Gyda’r llywodraeth yn Llundain yn dweud nad oedd y grym gan Lywodraeth yr Alban i basio deddf o’r fath, ymateb Nicola Sturgeon oedd ei herio. O ystyried y farn gyhoeddus ynghylch yr holl fater, roedd her o’r fath yn wallgofrwydd llwyr. Roedd ceisio gwrthdaro rhwng llywodraethau’r Alban a San Steffan ar fater lle’r oedd safbwynt llywodraeth Prydain yn fwy derbyniol i drwch poblogaeth yr Alban yn hunanladdiad gwleidyddol.

Rhwygiadau diangen

Hanfod y feddylfryd y tu ôl i ddeddf fel hon ydi mai “disgrifiad” gaiff ei roi ar adeg genedigaeth ydi rhyw (neu rywedd, neu beth bynnag ydych eisiau ei alw) yn hytrach na ffaith fiolegol. Mae gan selotiaid yr ideoleg hon bob hawl i’w barn – cyn belled â’u bod hwythau hefyd yn barod i barchu barn pobol eraill ar y mater. Mae’r broblem yn codi pan fo materion o’r fath yn arwain at anoddefgarwch a rhwygiadau diangen mewn mudiadau neu bleidiau, neu’n arwain at ormod o ynni’n cael ei wastraffu ar ddadleuon di-fudd.

Ymateb unrhyw blaid gall i ymgyrchwyr o’r fath fyddai: “Mae gynnoch chi syniadau digon diddorol, ond mae gan bleidiau go-iawn bethau pwysicach i ymboeni yn eu cylch.”

Mae’r SNP yn talu’n ddrud am ei methiant i wneud hyn – ac mae cwestiwn mwy sylfaenol fyth i’w ofyn ynghylch rhan ganolog y Blaid Werdd yn ei gwthio ar drywydd mor radical.

Sef, pam fod y Blaid Werdd â’r fath obsesiwn gyda materion nad oes a wnelon nhw DDIM OLL â gwarchod yr amgylchedd?

Yn wir, mae’n arwain rhywun i amau maint eu hymroddiad i gynaliadwyedd os ydyn nhw’n canolbwyntio cymaint o ynni i wthio agenda cymdeithasol radicalaidd o’r fath.

Un esboniad posibl ydi bod math o feddylfryd torfol ar waith yn eu plith, lle mae tueddiad i bobol o gyffelyb fryd ddilyn ei gilydd fel defaid. Yn sicr, mae’r hyn sy’n cael ei alw’n groupthink yn Saesneg yn felltith o’r fwyaf mewn pob math o fudiadau gwleidyddol.

Esboniad arall sydd lawn mor bosibl ydi bod eithafwyr LHDTC+ wedi cymryd drosodd Plaid Werdd yr Alban ac yn ei defnyddio fel cerbyd i wthio eu hagenda eu hunain. Does ond angen cofio beth a ddigwyddodd i YesCymru ar un adeg.

Diwedd cyfnod

Roedd ymddiswyddiad Humza Yousaf yn ddiwedd cyfnod o bron i ddeng mlynedd yn hanes yr SNP ers i Nicola Sturgeon olynu Alex Salmond.

Mae wedi bod yn gyfnod o lwyddiannau etholiadol ysgubol i’r SNP fel plaid. O ran yr hyn a lwyddodd i’w gyflawni dros y cyfnod, mae’r darlun yn fwy cymysg.

Un o’r pethau mwyaf diddorol ydi cysondeb lefel y gefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban. Mae wedi aros yn hynod debyg ar hyd y blynyddoedd, heb gydberthynas amlwg rhyngddo a llwyddiannau a methiannau’r SNP – nac ychwaith ddigwyddiadau allanol fel Brexit a llywodraeth drychinebus Liz Truss yn Llundain.

Mae’r gefnogaeth yn uchel – yn hofran rhwng tua 45-50% y rhan fwyaf o’r amser – ond eto ddim yn ddigon uchel i’r SNP na neb arall allu cyflawni nod o’r fath.

Roedd rhai o aelodau’r SNP yn ysu am refferendwm arall – heb dystiolaeth o unrhyw fath y byddai’r refferendwm hwnnw’n llwyddo. Roedd eu gwleidyddion blaenllaw ar y llaw arall yn ddoeth i beidio â rhuthro i lawr y llwybr hwn. Eto i gyd, byddai’n rhesymol disgwyl y gallai’r holl lwyddiannau etholiadol fod wedi arwain at ennill mwy o bwerau i Senedd yr Alban.

Mae’n ymddangos mai tipyn o ddafad ddu ydi Alex Salmond i lawer o wleidyddion blaenllaw’r blaid erbyn hyn. Eto i gyd, mae’n sicr yn dal i fod yn un o gewri mwyaf y mudiad cenedlaethol yn yr Alban. Mae’n werth cofio mai o dan ei arweinyddiaeth ef y gwelwyd y twf aruthrol yn y gefnogaeth i annibyniaeth, a bod y gefnogaeth honno wedi dal ei thir er ei bod wedi aros yn ei hunfan ar ôl iddo fynd.

Mae lle cryf i amau hefyd ei fod wedi dioddef erledigaeth ar gam gan ei elynion gwleidyddol yn ei blaid ei hun. Ond beth bynnag am unrhyw ffaeleddau personol honedig, mae’n amlwg fod ganddo ryw ddealltwriaeth fwy trylwyr o wleidyddiaeth yr Alban ac o bobol yr Alban nag oedd gan ei olynwyr.

Llywodraethu o’r brif ffrwd

Cyn-arweinydd arall, John Swinney, sydd bellach yn wynebu’r her o geisio adfer y sefyllfa fel Prif Weinidog nesaf yr Alban. Mae’n ymddangos fod ei draed ar y ddaear a bod yr SNP yn dechrau sylweddoli fod angen iddi newid ei ffyrdd.

Mae’n amlwg hefyd eu bod yn derbyn bod arnyn nhw angen Kate Forbes i chwarae rhan flaenllaw yn y llywodraeth newydd. Un o’i negeseuon pwysicaf hi yr wythnos yma oedd bod angen iddyn nhw “lywodraethu o’r brif ffrwd”.

Gallai ei chyngor fod yn addas i Blaid Cymru hefyd – sef yr angen i ennill y tir canol gwleidyddol yn lle ceisio’n rhy galed i blesio lleiafrif bach o radicaliaid asgell chwith.

Dros y blynyddoedd nesaf, mae’n gwbl bosibl y gallai Plaid Cymru apelio at rai o weddillion cefnogwyr Jeremy Corbyn yn y Blaid Lafur wrth i Keir Starmer ei symud fwyfwy tua’r dde.

Gallai rhai ohonyn nhw fod yn bobol ddidwyll ag ymrwymiad i gymdeithas decach ac a fyddai’n gaffaeliad i Blaid Cymru. Ar yr un pryd, rhaid fydd iddi fod yn wyliadwrus hefyd o gywion gog gwleidyddol a fydd yn ceisio ei meddiannu i’w dibenion eu hunain. Gellir yn hawdd ddychmygu gwahanol garfannau brith yn gweld Plaid Cymru fel cyfrwng cyfleus i hyrwyddo eu gwahanol agendâu ymylol eu hunain na fyddai fawr ddim apêl boblogaidd iddyn nhw.

Boed i’r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban fod yn rhybudd iddi.

Mae’n wir y byddai angen dychymyg gweddol fywiog i amau bod y rhwygiadau a’r ffraeo yn y mudiad cenedlaethol yn yr Alban yn ganlyniad i ymyrraeth gudd gan y Sefydliad Seisnig. Mae’n bosibl y byddai hefyd yn gofyn am farn afrealistig o uchel o allu’r Sefydliad hwnnw i weithredu mor effeithiol.

Eto i gyd, o weld cymaint o lanast a achosodd y traws-selotiaid yn yr Alban, byddai’n anodd bod wedi meddwl am ffordd well o hybu a diogelu undod y wladwriaeth Brydeinig.