Ydach chi’n adnabod canu soniarus Aderyn y Bwn a’r Gog ac yn gallu clywed y gwahaniaeth rhwng Telor y Cyrs a Bras y Cyrs? Os ydych chi’n codi gyda’r wawr, efallai eich bod yn hen gyfarwydd â chlywed corws hudolus y gwanwyn.
Ond i’r rhai ohonoch chi sydd ddim, mae RSPB Cymru yn eich gwahodd i osod eich larymau’n gynnar ac ymweld ag un o’u gwarchodfeydd natur i glywed symffoni byd natur yn ei holl ogoniant.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach yn cael ei gynnal yfory (dydd Sul, Mai 5).
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yng ngwarchodfeydd natur y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yng Nghonwy, Ynys-hir ger Machynlleth (11 Mai), a Gwlyptiroedd Casnewydd.
Dyma flas o beth sydd ar gael…
Conwy
Deffro gyda Chôr y Bore Bach
Ymunwch â’r tywyswyr am dro o amgylch y warchodfa, gan ddarganfod yr amrywiaeth anhygoel o ganeuon yr adar sy’n rhan o Gôr y Bore Bach. Bydd diodydd poeth a rôl frecwast yn dod â’r bore i ben. Ni fydd binocwlars yn cael eu darparu, felly dewch â’ch rhai eich hun a gwisgwch yn addas ar gyfer bore oer.
Dyddiad: Bore Sul 5 Mai
Amser: 5.30am – 8.30am
Cost/Manylion archebu: Mae angen archebu lle. Aelodau’r RSPB £21 / Rhai nad ydynt yn aelodau £26
Ynys-hir ger Machynlleth, Powys
Côr y Bore Bach a Croissants
Dewch i fwynhau’r amrywiaeth o adar a bywyd gwyllt sydd i’w gweld ar doriad y wawr gydag un o’r wardeiniaid. Bydd y daith gerdded yn para 2 awr ac yn gorffen yn y ganolfan ymwelwyr, lle bydd coffi a croissants ar gael.
Dyddiad: Bore Sadwrn 11 Mai
Amser: 6.00am – 8.30am
Cost/Manylion archebu: Aelodau’r RSPB £7 / Rhai nad ydynt yn aelodau £14
Gwlyptiroedd Casnewydd
Taith Dywys Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach
Dyma gyfle i ymweld â’r warchodfa cyn i unrhyw un arall gyrraedd a mwynhau cân adar y gwanwyn. Bydd tywyswyr wrth law i dynnu sylw at y bywyd gwyllt ar hyd y daith.
Dyddiad: 5 Mai
Amser: 5am – 7am
Cost/Manylion archebu: Aelodau’r RSPB £12 / Rhai nad ydynt yn aelodau £14.20
Mae rhestr lawn o’r holl ddigwyddiadau sydd ar gael mewn gwarchodfeydd natur yng Nghymru yma.