Mae disgwyl eirlaw ac eira ar fryniau’r gogledd heno, yn ôl rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Dywydd.
Maen nhw wedi cyhoeddi rhybudd melyn yn y gogledd ac yn ucheldiroedd yr Alban, Gogledd Iwerddon, a gogledd Lloegr.
Mae’n debygol y bydd rhwng 5-10cm o eira ar lawr mewn ardaloedd 200m uwchben lefel y môr, a hyd at 20cm mewn ardaloedd 300m uwchben lefel y môr.
Mae’n bosib y bydd hyd at 10cm o eira ar lawr mewn ardaloedd yn is i lawr hefyd, ac yn achosi anghyfleustra i deithwyr.
Dylai’r eira glirio erbyn 10yb fory (dydd Mawrth, Tachwedd 19), ond mae disgwyl i’r tywydd oer barhau drwy gydol yr wythnos.