Mae pryderon wedi’u codi y gallai cau cangen Swyddfa’r Post fod yn “hoelen olaf yn arch” canol tref Caernarfon.
Daeth cadarnhad gan Swyddfa’r Post yr wythnos ddiwethaf y gallai hyd at 115 cangen gau, gyda changen Caernarfon ymhlith y rhai allai gael eu heffeithio.
Y lleoliadau sydd wedi’u clustnodi i’w cau yw’r rhai olaf sydd dan berchnogaeth uniongyrchol Swyddfa’r Post, sy’n cael eu hadnabod fel canghennau Swyddfa’r Post y Goron.
‘Amrywiaeth o opsiynau’
Dywed Swyddfa’r Post eu bod nhw’n “ystyried amrywiaeth o opsiynau” i leihau costau canolog, ac maen nhw’n dweud y gallai rhai o’r canghennau sydd dan fygythiad fynd ar brydles i fanwerthwyr neu i bostfeistr annibynnol.
Mae gwleidyddion yn y gogledd wedi ysgrifennu at Neil Brocklehurst, Prif Weithredwr dros dro Swyddfa’r Post, i fynegi eu pryderon.
Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon; Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd; Llŷr Gryffudd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd; a Cai Larsen, cynghorydd yng Ngwynedd, sydd wedi ysgrifennu’r llythyr ar y cyd.
“Mae’n ddyletswydd ar Swyddfa’r Post i gynnig rhyw lefel o wasanaethau wyneb-yn-wyneb er mwyn cydymffurfio ag anghenion hygyrchedd trigolion,” medden nhw.
“Fel sir, mae oed cyfartalog trigolion Gwynedd yn uwch na Chymru gyfan, ac mae diffyg ymddiriedaeth neu fynediad yn golygu bod rhai o’n hetholwyr hŷn yn parhau i gael eu cau allan yn ddigidol.
“Yn ogystal, o fewn tref Caernarfon mae ward Peblig, sy’n aml yn uchaf ar gyfer bod yn ddifreintiedig yng Ngwynedd ar fynegai WIMD.
“Mae tlodi digidol yn broblem wirioneddol yn ein cymunedau, sy’n rhoi mwy fyth o bwyslais ar yr angen am wasanaethau wyneb-yn-wyneb.
“Ymhellach, mae cangen Caernarfon yn gwasanaethu ardal ehangach, fwy gwledig na’r dref ei hun, a gyda diffyg isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus go iawn yn broblem aciwt yn yr ardal hon, mae disgwyl i etholwyr deithio’n bellach i gael mynediad i wasanaethau’n afresymol.”
Anghenion ieithyddol unigryw
“Gadewch i ni orffen drwy dynnu sylw at anghenion ieithyddol unigryw iawn Caernarfon; anghenion nad ydyn nhw o reidrwydd yn cael eu bodloni o hyd gan wasanaethau ar-lein neu wasanaethau mewn trefi cyfagos,” meddai’r llythyr wedyn.
“Fel cymuned Gymraeg ei hiaith yn bennaf, mae derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg fel iaith gyntaf yn hanfodol wrth gynnal ymddiriedaeth a theyrngarwch pobol i Swyddfa’r Post.
“Mae canol tref Caernarfon, fel canol trefi ledled y sir, wedi’i chael hi’n anodd iawn dros y blynyddoedd diwethaf, a chafodd y sefyllfa ei gwaethygu gan Covid-19 a’r argyfwng costau byw.
“Gallai dileu gwasanaethau megis yr un rydych chi’n ei ddarparu fod yr hoelen olaf yn yr arch.
“Ar adeg pan ddylai Swyddfa’r Post fod yn gweithio er mwyn adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn eu gwasanaethau, mae’r cynnig hwn yn sathru ar anghenion cwsmeriaid, ac rydym yn eich annog i ailfeddwl am unrhyw gynlluniau i gau eich cangen yng Nghaernarfon.”
Deiseb
Mae deiseb i achub y gangen hefyd wedi cael ei lansio, ac mae Liz Saville Roberts yn dweud y bydd hi’n ysgrifennu at Jonathan Reynolds, Ysgrifennydd Busnes San Steffan, ynghylch y mater.
“Rydyn ni’n ystyried amrywiaeth o opsiynau i leihau ein costau canolog,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Post.
“Mae hyn yn cynnwys ystyried dyfodol ein canghennau dan reolaeth uniongyrchol, sy’n gwneud colled.
“Mae’n uchelgais cyhoeddus gennym ers tro ein bod ni’n symud tuag at rwydwaith prydles llawn, ac rydyn ni mewn trafodaethau â’r undebau am opsiynau’r dyfodol ar gyfer canghennau dan reolaeth uniongyrchol.”