Mae golwg360 wedi bod yn clywed am raglen bêl-droed newydd yn Wrecsam, gafodd ei lansio fis diwethaf.
Ar Ebrill 12, lansiodd Ysgol Morgan Llwyd y Rhaglen Amrywiaeth Pêl-droed ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd y ddinas.
Cafodd y rhaglen ei datblygu a’i threfnu gan Josh Hughes, sy’n athro yn yr ysgol.
Rhaglen mewn tair rhan
Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n dair, a chaiff ei hariannu gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru.
Yr ysgolion lleol sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yw Ysgol y Grango, Ysgol Bryn Alyn, Ysgol St Christopher, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Darland ac Ysgol Rhosnesni.
Cafodd rhan gynta’r rhaglen ei chynnal yn Nhŷ Pawb.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd cyfranogwyr y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai a gwrando ar siaradwyr mewn sesiynau’n ymwneud ag amrywiaeth mewn pêl-droed.
Cafodd grym pêl-droed ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth.
Mae’r disgyblion bellach wedi dechrau ar ail ran y rhaglen, gan greu prosiect o fewn eu hysgolion unigol.
Bydd y prosiect yn seiliedig ar bwnc neu bynciau oedd wedi codi yn ystod y digwyddiad cyntaf yn Nhŷ Pawb, a bydd gan bawb dri mis i’w cwblhau nhw.
Y bwriad yn y pen draw yw sicrhau bod y rhaglen yn cael effaith ar filoedd o bobol ifanc ledled Wrecsam gyfan.
Yn y drydedd rhan, bydd cynrychiolwyr o bob ysgol yn cwrdd am y tro olaf i gyflwyno’u prosiectau i’w gilydd.
Bydd hyn yn gyfle i rannu llwyddiant a dathlu effaith eu prosiect o fewn eu hysgolion.
Gweithgareddau
Cafodd gweithdai’r digwyddiad gafodd eu cynnal yn Nhŷ Pawb eu harwain gan Eleri Farley, Saffron Rennison ac Azeem Amir.
Bu Eleri Farley o Amgueddfa Wrecsam yn trafod hanes amrywiaeth mewn pêl-droed.
Dyfarnwr pêl-droed o dde Cymru yw Saffron Rennison, ac mae hi bellach yn gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae Azeem Amir yn chwarae pêl-droed i dîm Lloegr a’r Deyrnas Unedig ar gyfer y deillion.
Arweiniodd e weithdy ymarferol i’r disgyblion, gan roi profiad go iawn iddyn nhw o’r anawsterau o fyw gyda heriau’n ymwneud â dallineb.
Yn ystod y prynhawn, cynhaliodd Tîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru drafodaeth gyffredinol gyda’r disgyblion am amrywiaeth mewn pêl-droed.
Arweiniodd Darren Chetty, sy’n awdur, athro ac ymchwilydd, drafodaeth gyda’r grŵp cyfan.
Mae hefyd yn cyflwyno’r gyfres The Dragon on my Shirt, a bu’n trafod y rhaglen ddogfen bum rhan hon gyda’r disgyblion.
Mae’r rhaglen ddogfen yn seiliedig ar straeon pêl-droedwyr Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol (BAME) sydd wedi cynrychioli Cymru.
Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad gan Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam, a diolchodd i’r bobol ifanc gymerodd ran, a’u canmol.
Cafodd y digwyddiad ei gefnogi gan Glwb Pêl-droed Wrecsam a Russell Todd o Expo’r Wâl Goch, a chafodd lluniau o’r diwrnod eu tynnu gan AC Creative.
Yr uchelgais yw ehangu’r rhaglen yn genedlaethol, gan ddod â phobol ifanc o bob rhan o Gymru ynghyd.
Pe bai’n llwyddiannus, ac er mwyn deall pwrpas y rhaglen yn llawn, y nod yw trefnu Rhaglen Ryngwladol Diwylliant ac Amrywiaeth yn Wrecsam.
Gallai Wrecsam, felly, fod yn ganolbwynt i raglen sy’n caniatáu i bobol ifanc o bob rhan o’r byd ddod at ei gilydd a rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau gyda’i gilydd.