Mae Gerwyn Price wedi tynnu’n ôl o gymal Aberdeen yr Uwch Gynghrair Dartiau heno (nos Iau, Mai 2) oherwydd anaf i’w gefn.

Bu’n rhaid iddo fe hepgor Pencampwriaeth Agored Awstria yr wythnos ddiwethaf hefyd oherwydd yr un anaf.

Bu’n derbyn triniaeth ers wythnos, ond dydy e ddim wedi gallu teithio i’r Alban ar gyfer y bedwaredd noson ar ddeg.

Bydd ei wrthwynebydd Luke Humphries yn cael pàs drwodd i’r rownd gyn-derfynol ac yn etifeddu ei ddau bwynt a mantais o un cymal yn y tabl.

Bydd y Cymro’n colli chwe chymal yn y tabl.