Sgorfwrdd

Mae’r batiwr Eddie Byrom yn holliach ac wedi’i gynnwys yng ngharfan griced Morgannwg i wynebu Swydd Efrog yn Headingley (dydd Gwener, Mai 3).

Mae’r tîm wedi cael seibiant o gemau cystadleuol dros yr wythnos ddiwethaf, ac fe wnaeth y clwb gynnal gemau o fewn y garfan wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast.

Daw hynny ar drothwy mis prysur yn y Bencampwriaeth, gyda phedair gêm i ddod mewn cyfnod byr.

Dydy’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten na Harry Podmore ddim ar gael o hyd oherwydd anafiadau, ond mae’r bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy wedi gwella o anaf i’w ysgwydd ar ôl bod allan am ddwy gêm.

Mae’r chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite yn cael gorffwys, tra bod Asa Tribe a Ben Kellaway allan oherwydd eu hymrwymiadau yn y brifysgol, felly mae Tom Bevan a Will Smale wedi’u cynnwys yn eu lle.

Gemau’r gorffennol

Y tymor diwethaf, sgoriodd Marnus Labuschagne 170, a chipiodd Michael Neser hatric, a daeth Morgannwg o fewn trwch blewyn i gipio’r fuddugoliaeth wrth geisio bowlio’r Saeson allan ar y diwrnod olaf.

Cwympodd y nawfed wiced yn y belawd olaf ond un, ond goroesodd y tîm cartref i sicrhau gêm gyfartal.

Gêm gyfartal gafwyd yn 2021 hefyd, a hynny mewn gornest gafodd ei chwtogi ar y trydydd diwrnod gan eira.

Uchafbwynt yr ornest honno i Forgannwg oedd y bartneriaeth bumed wiced o 212 rhwng Billy Root a Chris Cooke mewn 69.5 pelawd, gyda’r ddau yn sgorio canred yr un.

Yn ôl y prif hyfforddwr Grant Bradburn, dydy Morgannwg ddim yn fodlon derbyn gemau cyfartal, ac maen nhw’n dal i ymdrechu i greu sefyllfaoedd o fewn gemau lle mae modd ennill.

Wrth drafod y garfan, dywedodd eu bod nhw’n “falch iawn o wobrwyo perfformiadau drwy gynnwys dau chwaraewr ifanc rhagorol eto, Will Smale a Tom Bevan”.

Swydd Efrog: A Lyth, F Bean, Shan Masood (capten), J Root, H Brook, M Revis, J Tattersall, D Bess, M Fisher, B Coad, D Moriarty

Morgannwg: B Root, E Byrom, S Northeast (capten), K Carlson, C Ingram, C Cooke, T Bevan, J Harris, M Crane, J McIlroy, Mir Hamza

Diwrnod 1: Diwrnod rhwystredig oherwydd cryn oedi yn sgil y glaw. Hanner canred i Billy Root ar ôl cael ei ollwng gan ei frawd Joe. Morgannwg 109-4.

Diwrnod 2: Mae Morgannwg eisoes dan bwysau, wrth i Swydd Efrog geisio adeiladu blaenoriaeth swmpus. Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 221, gyda phedair wiced yr un i’r troellwyr Dan Moriarty a Dom Bess. Mae’r tîm cartref wedi gorffen yr ail ddiwrnod ar 295 am ddwy, gyda Finlay Been heb fod allan ar 140 a Joe Root yn dal wrth y llain ar 92.

Diwrnod 3: Morgannwg 171-3, ar ei hôl hi o 127 yn eu hail fatiad. Swydd Efrog wedi cau eu batiad cyntaf ar 519-7. Mynydd i’w ddringo gan Forgannwg.

Diwrnod 4: Gêm gyfartal. Morgannwg wedi goroesi’r diwrnod olaf. Canred yr un i Colin Ingram (113) a Sam Northeast (142 heb fod allan). Morgannwg wedi gorffen ar 372-7.