Bydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n talu teyrnged i ddau o fawrion y clwb a phêl-droed Cymru, wrth iddyn nhw groesawu Millwall i Stadiwm Swansea.com ddydd Sadwrn (Mai 4).
Dros yr wythnosau diwethaf, bu farw Leighton James yn 71 oed a Terry Medwin yn 91 oed.
Yn asgellwr o fri, roedd Leighton James yn aelod allweddol o dîm John Toshack gododd i’r Adran Gyntaf yn 1981, wrth sgorio gôl hollbwysig yn erbyn Preston i sicrhau’r dyrchafiad.
Enillodd e 54 o gapiau dros Gymru a sgorio deg gôl, gan gynnwys cic o’r smotyn i guro Lloegr yn Wembley yn 1977.
Aeth yn ei flaen i fod yn hyfforddwr, ond yn fwyaf diweddar, fe fu’n llais cyfarwydd yn sylwebu ar gemau i BBC Radio Wales ac yn golofnydd papur newydd, gan wneud enw iddo’i hun unwaith eto fel sylwebydd di-flewyn-ar-dafod.
Un o sêr 1958
Ar ôl ymuno â’r Elyrch yn 1949, treuliodd yr ymosodwr Terry Medwin saith tymor gyda’r clwb, gan sgorio 60 gôl mewn 148 o gemau.
Aeth yn ei flaen i ymuno â Spurs yn 1956, gan rwydo 72 o weithiau mewn 215 o gemau.
Yno, bu’n cyd-chwarae â Chymro arall, Cliff Jones, gynt o Abertawe hefyd.
Gyda’i gilydd, bu’r ddau yn aelodau o dîm Cymru yng Nghwpan y Byd yn 1958, a sgoriodd Medwin y gôl dyngedfennol i gyrraedd rownd yr wyth olaf – y Cymro diwethaf i sgorio yng Nghwpan y Byd cyn Gareth Bale.
Roedd Medwin a Jones hefyd yn aelodau o dîm Spurs Bill Nicholson enillodd y dwbwl yn 1961.
Enillodd Spurs Gwpan FA Lloegr yn 1962 a Chwpan Enillwyr Cwpan UEFA yn 1963 hefyd.
Enillodd e 30 o gapiau dros Gymru (ac roedd e yno i glywed y garfan yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar yn 2022).
Aeth yn ei flaen i hyfforddi Caerdydd, Fulham, Norwich, ac Abertawe fel cynorthwyydd i Toshack.