Mae Andy King wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed.

Enillodd y chwaraewr canol cae 50 o gapiau dros Gymru.

Bydd yn chwarae ei gêm olaf i Bristol City yn erbyn Stoke ddydd Sadwrn (Mai 4).

Dechreuodd ei yrfa’n aelod o Academi Caerlŷr, gan chwarae ei gêm gyntaf o blith 379 yn 2007.

Enillodd e’r Adran Gyntaf yn 2008-09 a’r Bencampwriaeth yn 2013-14, gyda’r clwb cyn ychwanegu medal Uwch Gynghrair Lloegr at ei gasgliad yn 2015-16.

Fe adawodd e’r clwb yn 2020 ac ymuno ac OH Leuven cyn symud i Bristol City yn 2021 a chynrychioli’r clwb roedd e’n ei gefnogi’n blentyn, ac mae’n dweud bod hynny’n “fraint”.

“Roeddwn i eisiau i fy ngêm gyntaf fod yng nghrys Bristol City, a dw i’n credu mai dyna’r ffordd berffaith i fi fynd allan,” meddai.

Mae’r clwb wedi dymuno’n dda iddo fe ar gyfer y dyfodol.

https://twitter.com/AndyKingy/status/1786408390786171271