Mae Filo Tiatia, cyn-flaenwr y Gweilch, wedi’i benodi’n hyfforddwr amddiffyn newydd rhanbarth rygbi’r Dreigiau.

Bydd y cyn-chwaraewr rheng ôl, oedd wedi ennill dau gap dros y Crysau Duon, yn ymuno â’i dîm newydd dros yr haf.

Ar y cae, fe dreuliodd e bum tymor gyda’r Gweilch cyn mynd yn ei flaen i fod yn brif hyfforddwr tîm Toyota Verblitz a’r Sunwolves yn Japan, ac yn hyfforddwr blaenwyr ac is-hyfforddwr tîm cenedlaethol Japan.

Bu hefyd yn hyfforddwr blaenwyr Moana Pasifika ac Auckland, lle bu hefyd yn Gyfarwyddwr Coleg Rangitoto.

Dywed Dai Flanagan fod gan Filo Tiatia “gyfoeth o brofiad”, a’i fod yn “arloeswr ac arweinydd ym mhob ystyr”.