Mae’r gyrrwr ceir F1 Lewis Hamilton yn dweud mai John Ystumllyn oedd wedi ysbrydoli ei wisg ar gyfer y Met Gala yn Efrog Newydd eleni.

Mae’r Met Gala yn un o brif ddigwyddiadau ffasiwn y byd, ac mae’n denu enwogion o bob agwedd ar fywyd cyhoeddus ynghyd bob blwyddyn.

Y thema eleni, gafodd ei dewis gan Anna Wintour, golygydd Vogue, oedd garddio neu arddwriaeth.

Ac fe benderfynodd Lewis Hamilton, gyrrwr tîm rasio Mercedes, y byddai’n talu teyrnged i stori John Ystumllyn.

Pwy oedd John Ystumllyn?

Yn ôl y wefan Hanes Cymru Ni, garddwr yn y ddeunawfed ganrif oedd John Ystumllyn.

Roedd hefyd yn cael ei adnabod wrth y ffugenwau Jack Du a Jack Black.

Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am ei hanes cyn cyrraedd Cymru yn sgil y fasnach gaethweision.

Pan ddaeth i Gymru – o bosib o Orllewin Affrica neu India’r Gorllewin – roedd e’n wyth oed.

Aeth i fyw gyda’r teulu Wynn a gweithio fel gwas ar eu hystâd yng Nghricieth, lle cafodd ei ffugenw John Ystumllyn.

Dysgodd e Gymraeg a Saesneg, ynghyd â sut i fod yn arddwr, ac fe gwympodd mewn cariad â merch leol, Margaret Gruffydd.

Gadawodd y ddau eu swyddi cyn priodi yn 1768, ac mae’n bosib mai eu priodas nhw oedd y briodas hil-gymysg gyntaf yng Nghymru.

Cawson nhw saith o blant, ond colli dau ohonyn nhw’n blant.

Aethon nhw’n stiwardiaid tir cyn i John Ystumllyn ddychwelyd i fod yn arddwr i’r teulu Wynn, a chafodd ddarn o dir yn Y Nhyra Isa gan Ellis Wynn i ddiolch iddo am ei waith caled.

Bu farw John Ystumllyn yn 1786, ac mae cofeb fechan iddo ger ei orffwysfan yn Eglwys Cynhaearn Sant, lle mae ei fedd yn ‘adeilad rhestredig’ Gradd II ers 1999.

Mae gan John Ystumllyn rosyn yn dwyn ei enw hefyd, a hwnnw’n felyn ac yn symbol o gyfeillgarwch.