Bydd cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd a chodi i fod ymhlith 16 chwaraewr gorau’r byd yn newid gyrfa a bywyd y Cymro Jak Jones, yn ôl Gareth Blainey.
Bu’r sylwebydd yn siarad â golwg360 drannoeth buddugoliaeth y Sais Kyren Wilson o 18-14 dros y chwaraewr 30 oed o Gwmbrân yn Theatr y Crucible yn Sheffield neithiwr (nos Lun, Mai 6).
Roedd colli o bedair ffrâm yn unig yn fwy rhyfeddol fyth o ystyried bod Jak Jones wedi bod ar ei hôl hi o saith ffrâm i ddim ar ddechrau’r ornest, cyn taro’n ôl i roi llygedyn o obaith iddo fe ei hun yn ei rownd derfynol gyntaf erioed mewn unrhyw gystadleuaeth.
Roedd nifer yn sôn ar drothwy’r rownd gyn-derfynol fod y pedwar oedd wedi cyrraedd yn enwau annisgwyl, gyda Kyren Wilson, Jak Jones, Dave Gilbert a Stuart Bingham yn cystadlu am eu llefydd yn y rownd derfynol – y tro cyntaf ers 1977 i dri chwaraewr oedd wedi cymhwyso gyrraedd y rownd honno.
Roedd y ffaith fod Cymro yn y rownd derfynol eleni’n addas iawn, wrth i’r dyfarnwr Paul Collier o Gasnewydd gyhoeddi cyn ei bedwaredd ffeinal mai hon fyddai’r olaf cyn iddo ymddeol.
‘Rhyfeddol’
“Mae o wedi gwneud yn rhyfeddol i ddod trwy’r rowndiau rhagbrofol, ac am ryw reswm mae o’n gartrefol iawn yn y Crucible, fel wnaeth o brofi llynedd – wnaeth o gyrraedd rownd yr wyth olaf a cholli yn erbyn Mark Allen – ond mae o wedi gwneud hyd yn oed yn well eleni,” meddai Gareth Blainey wrth golwg360.
“Doeddwn i wir ddim yn disgwyl iddo fo guro Judd Trump, rhif dau y byd, na chwaith Stuart Bingham oherwydd profiad Bingham a’r ffaith ei fod o wedi ennill y gystadleuaeth ’nôl yn 2015.
“Doeddwn i ddim yn meddwl fod o’n mynd i guro Kyren Wilson, a dweud y gwir, ond mae’r ffaith fod o wedi cyrraedd y rownd derfynol yn anhygoel o ystyried fod o erioed wedi cyrraedd rownd derfynol unrhyw gystadleuaeth o’r blaen, heb sôn am Bencampwriaeth y Byd!
“Mae o wedi gwneud yn arbennig ac wrth gwrs roedd o’n siomedig neithiwr o golli, ond beth ddaru costio’n ddrud iddo fo oedd colli’r sesiwn gyntaf o 7-1.
“Ond dangosodd e gryn gymeriad yn fan’no, dw i’n meddwl, achos o leia’ wnaeth o gipio ffrâm ond roedd o’n ormod iddo fo wedyn i ddod yn ôl i ennill.
“Mae Wilson wedi bod yn y rownd derfynol o’r blaen – wnaeth o gyrraedd yn 2020.
“Beth sy’n bositif ydy bod Jak Jones yn yr 16 uchaf yn y byd yn sgil ei lwyddiant o yn Sheffield, a fysa neb wedi rhagweld hynna.
“Tasech chi’n betio, mi fysech chi wedi cael pris o 200-1 i Jak Jones ennill y gystadleuaeth, felly mae’r peth yn wych.
“Yn amlwg, cyn i’r gystadleuaeth ddechrau roedd yna chwe Chymro ac roedd rhywun yn teimlo o’r Cymry i gyd mai Mark Williams oedd â’r gobaith gorau, ar sail ei brofiad a’i allu a’r ffaith ei fod o wedi curo Ronnie O’Sullivan yn ddiweddar.
“Ond gollodd o yn y rownd gyntaf yn erbyn Si Jiahui – aeth hi i’r ffrâm olaf felly fysa hi wedi gallu mynd y naill ffordd neu’r llall, ond ddaru Jak Jones guro Si Jiahui wedyn yn yr ail rownd.
“Mae o wedi gwneud yn wych, ac mae hi jest yn braf fod chwaraewr ifanc – yn 30 felly yn dal yn ifanc – wedi gwneud cystal eleni.
“Dwi ddim yn meddwl fod o wedi cael tymor da eleni nes iddo fo gyrraedd y Crucible. Dyna sy’n anhygoel!
“Mae o mor gartrefol [yn y Crucible] ac i weld yn mwynhau nad fo ydy’r ffefryn i ennill gêm – yr underdog yn Saesneg, achos yn amlwg doedd neb yn rhoi gobaith iddo fo guro Judd Trump ond chwarae teg, ddaru o chwarae’n dda iawn.
“Mae o wedi cael momentwm, ac mae’r ffaith fod o wedi gwneud cystal y llynedd wedi rhoi rhyw fath o hyder tawel iddo fo.
“Mae o wedi edrych yn nerfus yn ystod ei gemau ond mae hynny i’w ddisgwyl, achos roedd o’n torri tir newydd yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol ac wedyn y rownd derfynol.
“Roedd o’n edrych yn flinedig iawn ar ddechrau’r rownd derfynol, ond roedd hynny’n hollol ddealladwy achos roedd o wedi cael gêm galed iawn yn erbyn Stuart Bingham, ac roedd Kyren Wilson wedi cael gêm rywfaint yn haws yn erbyn Dave Gilbert, felly roedd o’n fwy ffres ar gyfer y rownd derfynol.
“Dw i’n dal yn ffeindio fo’n rhyfedd siarad am Jak fel rhywun sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd.
“Mae’n neis iawn fod o wedi gwneud cystal – mae’n ddymunol, yn ddiymhongar, yn bersonoliaeth neis ac mae’n braf gweld pobol neis yn llwyddo.
“Mae Kyren Wilson yn foi hyfryd hefyd, a dw i’n falch iawn drosto fo bod o wedi ennill, ond fyswn i wedi mwynhau mwy pe bai Jak wedi ennill, ond roedd hi wedi mynd ar ôl y sesiwn gyntaf.”
Gyrfa fydd yn mynd o nerth i nerth
Yn sgil ei lwyddiant, mae Jak Jones wedi codi i rif 14 yn y byd, yn ôl y rhagolygon wedi’r rownd derfynol.
Mae’n golygu na fydd yn rhaid iddo fe chwarae yn y rowndiau cymhwyso ar gyfer y prif gystadlaethau eleni, gan fynd yn syth i’r rownd gyntaf.
“Os allith o aros yn yr 16 uchaf, bydd o’n chwarae yn y Meistri,” meddai Gareth Blainey.
“Dyna ydy’r peth mwyaf, a hefyd fydd dim rhaid iddo fo fynd i’r rowndiau rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth y Byd flwyddyn nesaf.
“Felly mae hwn yn newid anferth yn ei fywyd o a’i yrfa fo.
“Mae o’n 30, felly allith o barhau i wella, dyna sy’n braf, ac mae amser o’i blaid o.
“Mae o’n haeddu canmoliaeth uchel am beth mae o wedi’i gyflawni.
“Mae rhywbeth reit braf am y ffaith nad yr enwau cyfarwydd sy’n llwyddo bob tro, ac mae’n profi, os ydy chwaraewyr yn chwarae’n dda mewn rowndiau rhagbrofol, fod o’n rhoi momentwm iddyn nhw.
“Maen nhw wedi chwarae mewn gemau anodd cyn cyrraedd y Crucible a dyna ddaru ddigwydd i raddau efo Jak Jones.”
Paul Collier, y “dyfarnwr penigamp”
Mae’r ffaith fod Paul Collier yn camu i ffwrdd o ddyfarnu ar ôl ei bedwaredd rownd derfynol yn “adrodd cyfrolau” am ei gyfraniad i snwcer, yn ôl Gareth Blainey.
“A’r parch sydd tuag ato fo hefyd fel dyfarnwr,” meddai.
“Yn syml iawn, mae’n un o’r dyfarnwyr gorau yn y gamp.
“Bydd o’n dal yn aros yn y byd snwcer fel Cyfarwyddwr Cystadlaethau, a dw i’n gwybod fod lot o barch tuag ato fo gan y chwaraewyr.
“Mae yna lwyth o negeseuon yn dymuno’n dda iddo fo ar X.
“Mae’n ddyn hyfryd ac yn ddyfarnwr penigamp, yn deg iawn ac yn glir efo’r chwaraewyr.
“Dyna ydy’r arwydd, os ydy’r chwaraewyr yn parchu rhywun.
“Mae o wedi bod o gwmpas ers mor hir, mae gynno fo’r profiad a’r gallu.
“Mae’n cadw ei ben, yn ddyn hunanfeddiannol.
“Yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd, mae llygaid miliynau o bobol nid yn unig ar y chwaraewyr ond ar y dyfarnwr hefyd.
“Dros y blynyddoedd, un peth dw i wedi sylwi arno fo ydy bod torf snwcer wedi mynd yn fwy swnllyd, lle’r oedden nhw’n dawel iawn yn y 1970au a’r 1980au.
“Roedd lot o gefnogaeth i Wilson, ond roedd lot o gefnogaeth i Jones hefyd.
“Mae angen lot fawr o ganolbwyntio’n llwyr, ac mae pethau wedi newid lot i ddyfarnwr dros y blynyddoedd.
“Cymerwch y ‘foul and miss’. Os ydy dyfarnwr yn teimlo nad ydy chwaraewr wedi gwneud ymdrech deg, mae’r rheol ‘miss’ yn rhoi pwysau ar y dyfarnwr achos mae angen ailosod y peli lle oedden nhw cyn i’r ergyd cael ei tharo.
“Maen nhw’n cael help rŵan, gyda dyfarnwr arall yn eistedd yna, ond mae angen canolbwyntio’n galed iawn am gyfnod hir iawn.
“Mae Paul Collier yn foi profiadol iawn, ac wedi dyfarnu cystadlaethau mawr y byd, ond mae’r ffaith fod o wedi cael ei ddewis am y pedwerydd tro i ddyfarnwr rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd yn dweud y cyfan amdano fo.”