Mae Cymru yn “haeddu gwell” gan Vaughan Gething, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Daw sylwadau Liz Saville Roberts yn dilyn awgrym fod Prif Weinidog Cymru wedi camarwain ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig.

Mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod Vaughan Gething wedi cuddio’n fwriadol y ffaith iddo ddileu negeseuon rhyngddo fe a gweinidogion eraill.

Yn ystod yr ymchwiliad, mynnodd y Prif Weinidog fod negeseuon wedi’u dileu gan ei ffôn symudol, ac nid ganddo fe ei hun.

Ond mae gwefan Nation.Cymru yn adrodd bod neges sydd heb ei datgelu o’r blaen wedi’i rhannu â nhw sy’n profi ei fod e wedi cyfaddef dileu sgyrsiau gafodd e a gweinidogion eraill fel rhan o grŵp.

Mewn neges destun i’r sgwrs grŵp gweinidogol ar Awst 17, 2020, pan oedd yn Weinidog Iechyd, ysgrifennodd Vaughan Gething, “Rwy’n dileu’r negeseuon yn y grŵp hwn.

“Maen nhw’n gallu cael eu dal mewn Rhyddid Gwybodaeth [cais Rhyddid Gwybodaeth] a dwi’n meddwl ein bod ni i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy’n cael ei wneud.”

Cefndir

Cafodd y neges ei gyrru yn ystod y cyfnod pan oedd Cymru’n dal dan gyfyngiadau Covid-19 yn dilyn y cyfnod clo cyntaf, pan oedd gweinidogion yn parhau i wneud penderfyniadau am hawl pobol i ddod i gysylltiad wyneb-yn-wyneb â’i gilydd.

Mae ei gyfaddefiad ei fod e wedi dileu negeseuon yn gwrthddweud tystiolaeth roddodd e i ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig, pan honnodd fod negeseuon wedi cael eu dileu yn ystod gwaith “ailadeiladu diogelwch” ar ei ffôn symudol gan dîm technoleg gwybodaeth y Senedd yn 2022.

Mae’n ymddangos, yn groes i dystiolaeth arall roddodd Vaughan Gething i’r ymchwiliad, fod penderfyniadau am y ffordd i fynd i’r afael â’r pandemig wedi cael eu trafod ganddo fe a gweinidogion eraill yn y sgwrs grŵp.

‘Mae angen atebion’

Mae gwleidyddion a chyn-weinidogion y gwrthbleidiau a Llafur eu hunain yn gofyn am atebion.

“Mae Vaughan Gething yn tanseilio ymddiriedaeth yn nemocratiaeth Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Yn gyntaf, mae stitch-up undeb i ennill arweinyddiaeth Llafur Cymru, yna rhodd amheus o £200k gan droseddwr amgylcheddol, tystiolaeth bellach ei fod wedi camarwain ymchwiliad cyhoeddus statudol.

“Mae Cymru’n haeddu gwell.”

Un arall sydd wedi rhannu ei farn yw Leighton Andrews, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn-Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru.

“Wel, mae hyn ychydig o syrpreis,” meddai.

“Mae angen atebion.”

“Mae’r datguddiad bod Vaughan Gething, cyn-Weinidog Iechyd Cymru, wedi dileu negeseuon yn fwriadol ar anterth y pandemig, yn ergyd drom i’r rhai gollodd anwyliaid ac sydd, fel ni ym Mhlaid Cymru, wedi galw ers tro am ymchwiliad Cymreig i gyrraedd gwaelod penderfyniadau’r Llywodraeth,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.

Dywed ei fod e wedi gofyn i’r Farwnes Hallett alw Vaughan Gething fel tyst eto yn sgil y wybodaeth newydd sydd wedi dod i law.

“Fe wnaethon ni i gyd geisio tryloywder, ond dywedwyd wrthym fod popeth yn agored i ymchwiliad y Deyrnas Unedig ei weld,” meddai wedyn.

“Mae hyn yn tanseilio unrhyw gred bod hynny’n wir.

“Mae’n dangos diffyg parch amlwg at onestrwydd a thryloywder, gan danseilio ymddiriedaeth ymhellach yn y Prif Weinidog Llafur ar gefn ei sgandal rhoddion.

“Dylai’r Farwnes Hallett, fel cadeirydd yr Ymchwiliad, alw ar Vaughan Gething eto ar unwaith i roi eglurder ar yr hyn ddywedodd o dan lw.

“Mae Vaughan Gething yn dianc o ymchwiliad annibynnol i rodd i’w ymgyrch arweinyddiaeth Llafur, ond ni ddylid caniatáu osgoi ymchwiliad i’r mater hynod ddifrifol hwn.”

Mae’r neges sydd wedi’i datgelu yn dangos bod Cabinet Llafur Cymru wedi caniatáu’r twyll hwn, yn ôl eraill.

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae dadl gryfach dros gynnal ymchwiliad Covid annibynnol yng Nghymru erbyn hyn.

“Mae’r penderfyniadau gafodd eu gwneud yn y grwpiau WhatsApp yma wedi arwain at golli bywydau a busnesau, felly gyda’r dystiolaeth yn awgrymu fod y Prif Weinidog wedi dileu negeseuon yn fwriadol, mae’n amlwg pam roedd Llafur yn rhwystro ymchwiliad Covid annibynnol i Gymru,” meddai.

“Yng ngoleuni hyn, mae’r achos dros ymchwiliad Covid i Gymru yn gryfach eto.”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360 y bydd Vaughan Gething yn ateb cwestiynau ar y mater yn fuan.

‘Mae’r ymchwiliad y bwysig i mi’

Mae Vaughan Gething wedi ateb ambell gwestiwn yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mai 7) am ddileu negeseuon.

Dywed fod y neges wedi’i rhannu heb gyd-destun, a bod y neges wedi’i gyrru ynglŷn â chyfarfod grŵp y Blaid Lafur, ac nid polisïau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Covid.

“Doedd y neges ddim am wneud penderfyniadau ynglyn â’r pandemig,” meddai.

“Mae e am sylwadau mae cydweithwyr yn gwneud i’w gilydd ac am ei gilydd, ac mae e am sicrhau nad ydym yn darparu pethau sydd o bosib yn codi cywilydd.

“Dw i’n gwrthod yn llwyr y cyhuddiad nad ydw i wedi bod yn onest gyda’r ymchwiliad Covid.

“Mae’r ymchwiliad yn bwysig i mi.

“Dw i’n falch iawn o fod yn Brif Weinidog Cymru, ac yn falch o sefyll gerbron y Senedd wnaeth fy ethol.

“Dw i’n falch iawn o’r penderfyniadau anodd wnaethom drwy gydol y pandemig i geisio cadw ein gwlad yn ddiogel.

“Dw i wedi darparu’r holl wybodaeth oedd ar gael i fi.

“Dydw i heb ddileu gwybodaeth drwy neges na WhatsApp i drio osgoi craffu.”

Llun o’r negeseuon gan Lywodraeth Cymru.

Llythyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llythyr Vaughan Gething at Vikki Howells, cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Dywed y llythyr fod Prif Weinidog Cymru’n “cydnabod lefel y pryder” sydd wedi’i achosi gan yr helynt ynghylch y rhoddion i’w ymgyrch arweinyddol, a’i fod yn “difaru” hynny ac yn “cymryd y gwaith o geisio datrysiad, gyda mewnbwn cydweithwyr, o ddifrif”.

Tra bod cofnodion y Senedd yn dangos bod y penderfyniadau gafodd eu gwneud yn cydymffurfio â’r rheolau, meddai, mae’r cwestiynau a phryderon ehangach “yn tanlinellu’r angen am gamau sy’n ein galluogi ni i edrych ar ddiwygiadau datblygiedig sy’n addas ar gyfer y dyfodol”, medd y llythyr.

Dywed ei bod hi’n “bwysig cydweithio” er mwyn sicrhau rheolau sy’n “gadarn a thryloyw y gall y cyhoedd ymddiried ynddyn nhw”, ac y bydd modd mabwysiadu dull “yn seiliedig ar y meysydd lle mae cryn gytundeb yn y Senedd”.

Dywed ymhellach fod y Pwyllgor Safonau mewn lle da i ystyried cynigion i ddiweddaru’r Cod Ymddygiad mewn perthynas â rhoddion i Aelodau’r Senedd, ond mater i’r pwyllgor fydd eu cylch gorchwyl.

Newidiadau “ystyrlon ac ymarferol”

Dywed y llythyr ymhellach y byddai’n “synhwyrol ystyried newidiadau ystyrlon ac ymarferol” o ran:

  • lefelau adrodd a datgelu
  • a ddylid cyflwyno cap ar roddion gan unigolion neu endid

Dywed y dylid ystyried natur rhoddion sy’n dderbyniol i’r Senedd, ond y gallen nhw gael eu gwahardd o ganlyniad i reolau sy’n “rhy syml”, er enghraifft rhoddion mewn ewyllys neu gyfraniadau gan weithwyr trwy undebau llafur.

Dywed ymhellach fod angen “golwg drylwyr heb angerdd ar y gwarchodaeth bresennol sydd yn ei lle ac sydd wedi gweithio’n dda wrth atal gwrthdaro buddiannau”.

Ychwanega y bydd yn gofyn am argymhellion ynghylch sut i gryfhau hyder y cyhoedd o ran gwrthdaro buddiannau lle bo Aelod o’r Senedd hefyd yn aelod o’r Llywodraeth, gan arwain at “fwy o dryloywder yn y ffordd mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu â sefydliadau sy’n ceisio dylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru”.

Dywed y byddai’n croesawu edrych eto ar y posibilrwydd o lunio cofrestr o lobïwyr yng Nghymru, ac y gallai Cymru elwa ar edrych ar arfer da mewn gwledydd eraill.

Ychwanega ei bod hi’n “iawn ein bod ni’n gofyn sut y gallwn ni wneud ein prosesau wrth wneud penderfyniadau’n fwy tryloyw”, a’i fod e’n trafod â Phlaid Cymru y posibilrwydd o allu adalw aelodau sy’n torri’r rheolau.