Mae disgwyl i’r Sosialwyr ennill yr etholiad cyffredinol yng Nghatalwnia ddiwedd yr wythnos hon (dydd Sul, Mai 12).

Yn ôl arbenigwyr, bydd y pleidiau annibyniaeth Esquerra Republicana a Junts per Catalunya yn brwydro am yr ail safle y tu ôl i blaid Salvador Illa.

Mae disgwyl i’r blaid ryddfrydol Ciudadanos ddiflannu’n llwyr o Senedd Catalwnia, gan golli’r chwe sedd enillon nhw yn 2021.

Y gred yw mai Plaid y Bobol fydd un o’r pleidiau cryfaf o blith y pleidiau unoliaethol, ynghyd â Vox, y blaid asgell dde bellaf.

Arolwg

Yn ôl arolwg gan CIS, asiantaeth arolygon ymhlith y cyhoedd yn Sbaen, mae disgwyl i’r Sosialwyr ennill rhwng 29.8% a 33.2% o’r bleidlais.

Mae hynny’n cyfateb yn fras i gyfanswm Esquerra a Junts gyda’i gilydd (rhwng 30% a 36%).

Maen nhw’n darogan y bydd Plaid y Bobol yn ennill rhwng 9.6% ac 11.9% o’r bleidlais, 5.8% i 7.5% i Vox, 5% i 6.7% i Comuns Sumar, 3.2% i 4.6% i CUP, a 3% i 4.4% i Alianca Catalana.

Mae’r pôl yn ei gwneud hi’n anodd darogan enillydd clir, felly, ond mae ffurfio clymblaid yn ganlyniad annhebygol hefyd, gyda’r pleidiau wedi’u hollti ar fater annibyniaeth.

Mae 135 o seddi yn Senedd Catalwnia, ac mae angen 68 er mwyn ennill mwyafrif.