Mae Comisiynydd Heddlu newydd Gwent yn galw ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig i ystyried ei ddyfodol, yn dilyn canlyniadau siomedig i’r Ceidwadwyr yn etholiadau lleol Lloegr.

Cafodd Jane Mudd ei hethol i’w swydd newydd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, yn un o’r ddwy ddynes gyntaf i gael eu hethol i rôl Comisiynydd yng Nghymru.

Doedd dim etholiadau lleol yng Nghymru, ond aeth rolau’r Comisiynwyr Heddlu i ymgeiswyr o Lafur (Gwent, De Cymru a Gogledd Cymru) a Phlaid Cymru (Dyfed-Powys) yn unig.

Yn ôl Jane Mudd, mae hi’n credu bod y canlyniadau’n dangos bod “amser yn rhedeg allan i’r Llywodraeth Geidwadol”.

“Dw i’n credu y bydden ni i gyd wedi hoffi pe bai’r etholiad cyffredinol wedi cael ei gynnal ddoe, a dw i’n siŵr bod y Prif Weinidog yn ystyried ei ddyfodol wrth i ni siarad ac wrth i raddfa’r colledion ddod i’r amlwg dros y penwythnos,” meddai, wrth ateb a fyddai hi wedi dymuno i’r etholiad cyffredinol, sy’n gorfod cael ei gynnal erbyn diwedd Ionawr 2025, gael ei gynnal.

“Dw i’n credu bod y mudiad Llafur cyfan wedi cael sêl bendith gan y cyhoedd, ac mae’n glir i bawb weld mai Llafur yw’r blaid mae trigolion y Deyrnas Unedig am roi eu ffydd a’u hymddiriedaeth ynddi,” meddai, wrth ateb a yw’r canlyniadau’n sêl bendith i Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur.

Dyfodol y Ceidwadwyr

Ond dywed y Cynghorydd Richard John, arweinydd yr wrthblaid ar Gyngor Sir Fynwy oedd yn bresennol yng nghyfrif Gwent yng Nghaerffili, fod perfformiad y blaid yng Nghymru’n galonogol.

“Yn sicr ddim,” meddai, pan gafodd ei holi a yw’n cytuno y dylai Rishi Sunak ystyried ei ddyfodol.

“Yma yng Ngwent, rydym wedi gweld symudiad oddi wrth Lafur tuag at y Ceidwadwyr Cymreig ers 2021, oedd wedi digwydd pan oedd y Ceidwadwyr ar y blaen yn y polau ac yn mwynhau cynnydd yn dilyn cyflwyno brechlyn [Covid-19] yn llwyddiannus.

“Tra y bu’n set heriol o etholiadau i’r Ceidwadwyr, mae’r blaid wedi perfformio’n well na’r disgwyl ledled Cymru ac mewn rhannau eraill o’r wlad [y Deyrnas Unedig], gan ddangos nad oes modd cymryd yr etholiad cyffredinol yn ganiatol.

“Dw i’n falch fod cynifer o bleidleiswyr yn Sir Fynwy wedi gallu ein cefnogi ni a rhoi blaenoriaeth iachus i ni dros y Blaid Lafur, ond allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau.”

Pryderon

Dywed y Tori fod y canlyniadau hefyd yn dangos pryderon ynghylch Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog Vaughan Gething, sydd wedi bod dan y lach tros rodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan un gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Cafodd hynny ei wfftio gan Jane Mudd, oedd wedi cefnogi Jeremy Miles yn ras arweinyddol Llafur Cymru.

Dywed fod Llafur wedi cael “canlyniad positif” ledled Gwent, ond mae hi wedi gwrthod gwneud sylw ynghylch y rhodd, gan ddweud bod “ymchwiliad annibynnol ar y gweill”.

Mae’r ymchwiliad gan y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones yn archwilio’r rheolau a’r prosesau ar gyfer etholiadau mewnol Llafur Cymru yn y dyfodol.

Dywed Jane Mudd hefyd y byddai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gwella plismona, gan gynnwys Gwent, a’i bod hi am weld Yvette Cooper fel “dynes arall” yn dod yn Ysgrifennydd Cartref.