Mae disgwyl i John Swinney ddod yn Brif Weinidog yr Alban yr wythnos hon.

Dyma fydd ei ail gyfnod wrth y llyw gyda’r SNP, ac un o’i dasgau cyntaf fydd ailuno’r blaid ar ôl cyfnod digon ansicr oherwydd ymddiswyddiad Humza Yousaf a helynt arestio’r cyn-Brif Weinidog Nicola Sturgeon a’i gŵr Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr yr SNP wrth i’r ymchwiliad i fater ariannol barhau.

Mae Swinney wedi’i ethol yn arweinydd y blaid, ar ôl i Graeme McCormick dynnu’n ôl o’r ras ar yr unfed awr ar ddeg ar ôl sicrhau digon o enwebiadau, gyda Kate Forbes eisoes wedi cadarnhau na fyddai’n sefyll.

Mae’r ddau bellach yn dweud eu bod nhw’n cefnogi John Swinney i ddod yn arweinydd y blaid ac yn Brif Weinidog.

Daw’r broses i ethol arweinydd newydd yn dilyn ymddiswyddiad Humza Yousaf o ganlyniad i’r penderfyniad i derfynu cytundeb i rannu grym â’r Blaid Werdd.

Oherwydd mai John Swinney yw’r unig ymgeisydd, fydd dim rhaid cynnal etholiad, ac fe allai gael ei benodi’n ffurfiol yn y dyddiau nesaf.

Annibyniaeth

Mae’n debygol y bydd annibyniaeth yn parhau’n uchel ar restr yr SNP o flaenoriaethau yn y cyfnod newydd hwn o dan arweinyddiaeth John Swinney.

Wrth i Graeme McCormick gasglu llofnodion ar ei daflen enwebiadau, fe wnaeth e droi at gefnogwyr mewn rali annibyniaeth yn Glasgow dros y penwythnos, gan gasglu’r llofnodion ar ei glipfwrdd.

Ar ôl iddo fe dynnu’n ôl, mae’n golygu y gall y blaid fwrw iddi yn hytrach na gohirio canlyniad oedd yn edrych yn anochel ac sy’n debygol o fod wedi cael ei gadarnhau yn dilyn rhai wythnosau o ddadlau a thrafod o fewn y blaid.

Llongyfarchiadau

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi llongyfarch John Swinney.

“Mae llawer wedi digwydd ers i’r llun hwn gael ei dynnu yn 2014, ond yn union fel y gwnaethon ni drafod materion economaidd a chydweithio posib rhwng Cymru a’r Alban bryd hynny, gall ein gwledydd ddal i ddysgu cymaint gan ein gilydd rŵan,” meddai.