Bydd cymorth ariannol ar unwaith yn cael ei ddarparu i bobol sydd wedi profi difrod i’w cartrefi yn sgil llifogydd yn ystod Storm Bert.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu grantiau o £1,000 i aelwydydd heb yswiriant, neu £500 i aelwydydd sydd wedi’u heffeithio ac sydd â sicrwydd yswiriant presennol.

Daeth cadarnhad o’r grantiau gan y Prif Weinidog Eluned Morgan a’i dirprwy Huw Irranca-Davies, ar ôl iddyn nhw fod yn ymweld â chymunedau gafodd eu heffeithio dros y dyddiau diwethaf.

‘Cydymdeimlad’

Wrth annerch Aelodau’r Senedd, dywedodd Huw Irranca-Davies ei fod yn estyn ei gydymdeimlad i’r bobol gafodd eu heffeithio gan Storm Bert.

“Mae effeithiau llifogydd yn ddinistriol, a gwn y bydd pobol ledled Cymru yn teimlo’n ofidus ac yn bryderus drostyn nhw eu hunain, eu hanwyliaid sydd wedi’u heffeithio, a’u bywoliaeth,” meddai.

“Mae Storm Bert wedi ein hwynebu unwaith eto gyda’r realiti o beth fydd digwyddiadau tywydd eithafol amlach yn ei olygu i gymunedau ledled Cymru.”

Bu’n ymweld â Phontypridd, Ynysgynwraidd a Chwmtyleri.

Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ac eraill sydd wedi bod yn gweithio ar yr ymateb i Storm Bert.

“Rwy’n gwybod fod llawer o gymunedau ledled y wlad wedi dod at ei gilydd i weithio ochr yn ochr ag asiantaethau allweddol ac i gefnogi ei gilydd yn yr ymateb ar y cyd,” meddai.

“Mae’r gwaith hwn, dan yr amgylchiadau anoddaf un, i leihau’r effeithiau ar gymunedau ble bynnag y bo modd, o’r pwys mwyaf.”

Y sefyllfa erbyn hyn

Mae awdurdodau lleol wedi adrodd am lifogydd mewnol i gyfanswm o 433 eiddo – 125 yn Rhondda Cynon Taf, 90 ym Merthyr, 75 ym Mlaenau Gwent, o leiaf 50 yn Nhrefynwy, 50 yng Nghaerffili, pymtheg yn Nhorfaen, chwech ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin, tri ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Sir y Fflint, dau yng Nghaerdydd, ac un yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £300m i awdurdodau rheoli risg i’w fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd.

Eleni, mae wedi cynnal y lefelau uchaf erioed o gyllid ac wedi darparu mwy na £75m i awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru.

Mae hyn yn cynnwys £9.7m o gyfalaf a £4.95m o gyllid refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, a £22m o gyfalaf a refeniw o £24.5m i Cyfoeth Naturiol Cymru.