Mae swyddfeydd post Gwynedd yn wynebu “argyfwng” wedi i Swyddfa’r Post gadarnhau y bydd cangen arall yn cau.
Bydd cangen Stryd Fawr Cricieth yn cau ar ddiwedd mis Ionawr.
Dywed llythyr gan Swyddfa’r Post y bydd y gangen yn cau yn sgil ymddiswyddiad y Postfeistr, arweiniodd at golli’r hawl i ddefnyddio’r adeilad, a bod hysbyseb bellach wedi’i chyhoeddi ar gyfer y swydd.
‘Methiannau difrifol’
Dywed Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, y bydd cau’r gangen yn effeithio mwy na Chricieth yn unig, am fod y Postfeistr yn cynnal gwasanaeth fan symudol ar gyfer 25 o gymunedau ar hyd a lled Pen Llŷn a Meirionnydd.
Dywed fod y cymunedau bellach yn “dioddef baich methiannau difrifol yng nghynllunio strategol a chyflenwad gwasanaethau Swyddfa’r Post”.
Daw cau’r gangen yng Nghricieth yn dilyn cyhoeddiadau diweddar fod dyfodol Swyddfa Bost y Goron dan fygythiad hefyd.
Mewn llythyr, eglura Swyddfa’r Post fod cangen Cricieth yn cau “yn dilyn ymddiswyddiad y postfeistr a thynnu’r hawl i ddefnyddio’r safle”.
Bydd cangen y Stryd Fawr yn cau am 5:30yp ddydd Gwener, Ionawr 31.
Datganiad
“Mae cyflenwi gwasanaeth Swyddfa’r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol yn bwysig i ni, ac mi fyddwn ni’n parhau i weithio’n galed er mwyn adfer gwasanaethau’n yr ardal,” medd Swyddfa’r Post mewn datganiad.
“Rydyn ni’n croesawu unrhyw geisiadau ar gyfer partneriaid adwerthu posib fyddai â diddordeb mewn rhedeg cangen leol ar ein rhan ni.
“Mae’r swydd wag yn cael ei hysbysebu ar ein gwefan ni ar hyn o bryd (www.runapostoffice.co.uk ), ac mi fydd ceisiadau’n cael eu hystyried yn fanwl.
“Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw un fyddai â diddordeb, rhannwch y cyhoeddiad hwn gyda nhw.”
‘Anoddach’
Dywed Liz Saville Roberts y bydd cau’r gangen yn gwneud bywyd yn anoddach i’r rheiny sy’n byw yng nghefn gwlad.
“Mae gan gau Swyddfa’r Post yng Nghricieth oblygiadau y tu hwnt i’r dref ei hun am fod y Postfeistr presennol hefyd yn cynnal gwasanaeth allgymorth symudol bob wythnos i hyd at 25 cymuned ar hyd a lled Gwynedd,” meddai.
“Yn ogystal, does dim gwasanaeth Swyddfa’r Post yn Nefyn o hyd wedi i’r gangen yno gau’n rhannol am nad oedd gan staff ffydd y byddai eu systemau cyfrifiadurol yn gweithio ar ôl sgandal Horizon.”
Soniodd Liz Saville Roberts am y materion hyn wrth y cyn-weinidog Kevin Hollinrake cyn yr etholiad cyffredinol.
Mae hi bellach wedi galw ar y Llywodraeth Lafur newydd i sicrhau nad yw Swyddfa’r Post yn blaenoriaethu elw yn hytrach nag anghenion cymunedau gwledig.
Ymrwymiadau
“Mae hyn yn ergyd arall i’n cymunedau gwledig, wythnos yn unig wedi i Swyddfa’r Post gyhoeddi fod cangen Caernarfon dan fygythiad,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.
“Mae canghennau gwledig fel yr un yng Nghricieth yn gwasanaethu ardal sy’n llawer mwy na’r dref ei hun ac, o ystyried cynifer y gwasanaethau bancio wyneb-yn-wyneb eraill sydd wedi cau, mae’n hollbwysig cynnal presenoldeb Swyddfa’r Post.
“O ystyried bod Swyddfa’r Post wedi ymrwymo i sicrhau bod 95% o’r holl boblogaeth wledig o fewn tair milltir i safle Swyddfa’r Post, a bod gan 95% o boblogaeth pob ardal god post o fewn chwe milltir i’r safle, dw i’n awyddus i gael gwybod sut mae Swyddfa’r Post yn bwriadu cadw at eu haddewidion yn sgil cau cangen Cricieth.
“Dw i hefyd yn awyddus i gael eglurhad ar gyflenwad gwasanaethau allgymorth symudol sydd wedi’u gwasanaethu gan bostfeistr Cricieth ar hyn o bryd.
‘Achubiaeth’
“Mae’r gwasanaeth yn achubiaeth i nifer o gymunedau yn fy etholaeth i, ac yn caniatáu mynediad at wasanaethau Swyddfa’r Post yn agos at y cartref,” meddai Liz Saville Roberts wrth fynd yn ei blaen.
“Mae 25 o gymunedau ym Meirionnydd, Dwyfor, ac Arfon yn gweld budd y gwasanaeth symudol hwn, ond does dim sicrwydd y bydd hyn yn parhau wedi i gangen Cricieth gau.
“Mae angen sicrwydd ar bobol sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, yn enwedig yr henoed a’r rheiny sydd heb drafnidiaeth, y byddan nhw yno o hyd iddyn nhw wedi’r flwyddyn newydd.
“Yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg ydy’r niwed i enw da Swyddfa’r Post achosodd sgandal Horizon, sydd wedi cyflymu dirywiad mynediad pobol mewn nifer gynyddol o gymunedau at eu gwasanaethau.
“Mae cydymdeimlad gen i gyda pherchnogion busnes sy’n wynebu sefyllfa lle nad yw cyflenwi gwasanaeth Swyddfa’r Post yn gyfleus iddyn nhw’n ariannol nac yn bersonol.
“Mae nifer o bobol wedi derbyn ysgytwad yn sgil sgandal Horizon, ac mae diffyg ymddiriedaeth wedi bod yn un o’r rhesymau pennaf pam fod pobol wedi bod yn gyndyn o ran cynnig cymryd yr awennau.”
Cwtogi
“Mae hyn yn ogystal â phenderfyniadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gwtogi nifer y gwasanaethau sy’n cael eu darparu wrth gownteri Swyddfa’r Post,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.
“Mae Swyddfa’r Post yn wasanaeth cyhoeddus yn fwy na dim, ond mae’n ymddangos nad oes unrhyw ymgynghoriadau cyhoeddus na chynllunio strategol wedi bod o ran canfod lle mae angen gwarantu canghennau.
“Ychydig iawn o ystyriaeth sydd wedi bod o ran ffactorau lleol, megis defnydd trafnidiaeth, tlodi digidol mewn ardaloedd gwledig, neu anghenion arbennig ein cymunedau Cymraeg.
“Mewn cyfnod lle dylai Swyddfa’r Post fod yn canolbwyntio ar adennill ffydd a hyder y cyhoedd, mae’n ymddangos eu bod nhw’n benderfynol o wneud bywyd eu cwsmeriaid ffyddlon yn anoddach.”
Mae Swyddfa’r Post wedi derbyn cais am ymateb.