Ddydd Gwener (Tachwedd 29), bydd aelodau seneddol yn pleidleisio ar ail ddarlleniad ddeddfwriaeth Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes). Yma, mae David Chadwick, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, yn egluro pam y bydd yn cefnogi’r ddeddfwriaeth…
Ar Dachwedd 29, bydd aelodau seneddol yn pleidleisio ar ail ddarlleniad ddeddfwriaeth Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), a phe bai’n cael ei basio pob cam yn y senedd (San Steffan), bydd yn rhoi’r hawl i bobol sy’n derfynol sâl yng Nghymru a Lloegr yr hawl i ddewis dod â’u bywydau i ben.
Mae’r bil hwn yn bwnc hynod emosiynol, ac mae’r ddadl ynghylch cymorth i farw ar y gweill ers sawl degawd. Gyda hynny mewn cof, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n achub ar y cyfle hwn i amlinellu i etholwyr sut dw i’n bwriadu pleidleisio ddydd Gwener yma, a pham.
Yn gyntaf, dylwn i egluro fod y Democratiaid Rhyddfrydol fel plaid o blaid cymorth i farw. Fodd bynnag, gan gydnabod emosiwn y pwnc dan sylw a safbwyntiau personol dwfn ar gymorth i farw, bydd gan ein haelodau seneddol ‘bleidlais rydd’ – sy’n golygu nad oes rhaid i ni bleidleisio yn ôl llinellau ein plaid. Bydd Syr Ed Davey, arweinydd ein plaid, yn pleidleisio yn ei herbyn.
Dw i wedi penderfynu bwrw fy mhleidlais rydd o blaid cymorth i farw. Dydy hwn ddim yn benderfyniad hawdd, a dw i’n cydnabod fod cymorth i farw’n bwnc cymhleth a sensitif.
Mae fy marn wedi’i siapio gan sawl ffactor, gan gynnwys y straeon torcalonnus sydd wedi’u hanfon ataf ynghylch anwyliaid yn dioddef yn sgil salwch terfynol cyn i’w bywydau ddod i ben, a’m profiad personol o fod wedi byw yn yr Iseldiroedd, lle bu ewthanasia’n gyfreithlon o dan rai amodau ers 2002.
Yn fy marn i, dylid newid y gyfraith yn y Deyrnas Unedig i gyfreithloni cymorth i farw fel dewis ar gyfer oedolion terfynol sâl sydd â gallu meddyliol llawn, gyda gwarchodaeth gref er mwyn sicrhau nad yw ond yn digwydd pe bai rhywun wedi gwneud dewis gwirfoddol, clir, sefydlog ar sail yr holl wybodaeth i ddod â’u bywyd i ben.
Ni ddylid gorfodi neb i’w wneud e.
Byw a marw ag urddas
Dw i’n credu bod pobol â salwch terfynol yn haeddu byw a marw â chymaint o urddas a rheolaeth â phosib. Dw i’n credu ei bod hi’n anghyfiawn fod y gyfraith bresennol yn amddifadu pobol derfynol sâl o urddas a dewis ar ddiwedd eu hoes, ac o bosib yn troi aelodau’r teulu sy’n cefnogi dymuniad olaf anwyliaid yn droseddwyr.
Ar ôl ystyried yn ofalus, fy marn i yw y byddai’r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yn rhoi dewis a rheolaeth i’r rheiny sy’n wynebu marwolaeth ynghylch sut maen nhw’n marw, er mwyn osgoi dioddefaint diangen, gan roi gwarchodaeth gref hefyd.
Dw i’n credu’n gryf nad yw’r bil hwn yn disodli gofal diwedd oes o safon uchel ag adnoddau go iawn mewn unrhyw ffordd. Yn yr un modd, rhaid i ni sicrhau bod gofalwyr sy’n cynnig gofal i’r rhai sy’n derfynol sâl yn cael gwell cefnogaeth.
Ffydd
Yn olaf, hoffwn gyfeirio at rôl ffydd yn y ddadl hon. Mae ffydd yn hynod bersonol ac yn cael ei dehongli mewn nifer o wahanol ffyrdd. Dw i’n dod o deulu o Gatholigion Rhufeinig pybyr, ac mae nifer o’m cefndryd yn dysgu mewn ysgolion cynradd Catholig yn ne Cymru. Dw i’n deall safbwynt yr Eglwys Gatholig ar gymorth i farw, a dw i’n siŵr fod credoau crefyddol tebyg wedi helpu i siapio safbwyntiau’r rheiny sydd yn erbyn y Bil.
Ond eto, fel cenedl â sawl crefydd a heb grefydd, byddai’n anghyfiawn pe bai’r ddadl hon yn cael ei llywio gan gredoau crefyddol aelodau seneddol yn unig. Mae’r rheiny sydd mewn poen ar ddiwedd eu hoes yn haeddu cysur ac urddas; mae’n safbwynt Rhyddfrydol ers tro byd fod grym, pan fo’n bosib, yn well yn nwylo’r unigolyn yn hytrach na’r wladwriaeth.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â fi am y bleidlais hon, o bob ochr i’r ddadl. Er gwaethaf credoau angerddol ar y ddwy ochr, fe fu’r ddadl yn hynod o garedig, gydag eiriolwyr ar y ddwy ochr yn cydnabod fod y ddwy ochr, er eu bod yn anghytuno â’i gilydd, yn eirioli dros eu safbwyntiau â thosturi a bwriad da.