Bydd y canolwr Jonathan Davies yn gadael rhanbarth y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Daeth ei gêm gyntaf yn y crys coch yn 2006, ac mae e wedi chwarae 209 o weithiau yn ystod dau gyfnod, gan sgorio 55 o geisiau.

Chwaraeodd e i Clermont Auvergne rhwng ei ddau gyfnod gyda’r rhanbarth yn y gorllewin.

Ond dydy e ddim yn barod i ymddeol am y tro, gan ddweud ei fod e’n gobeithio cael cytundeb gyda chlwb arall y tymor nesaf.

Dywedodd wrth bodlediad Scrum V ei bod hi’n “fraint” cael cynrychioli’r Scarlets ers cyhyd, ac yntau’n gefnogwr pan oedd e’n iau.

Bydd ei flwyddyn dysteb gyda’r rhanbarth yn dechrau ym mis Mehefin, ond mae’n dweud y gallai fod yn chwarae i glwb arall yng Nghymru neu dramor erbyn hynny.

Dechreuodd ei yrfa gyda Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf cyn ennill ei le yn Academi’r Scarlets.

Mae e wedi ennill 96 o gapiau dros Gymru, gan arwain ei wlad bedair gwaith, ac ennill y Gamp Lawn ddwywaith, y Chwe Gwlad ddwywaith ac wedi chwarae yng Nghwpan y Byd ddwywaith hefyd.

Mae e wedi chwarae dros y Llewod chwe gwaith, yn Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr y Gyfres yn erbyn y Crysau Duon.

Wrth adael y rhanbarth, mae Jonathan Davies yn ymuno â rhestr sy’n cynnwys Ken Owens, sy’n ymddeol, Kieran Hardy sy’n ymuno â’r Gweilch, a Scott Williams a Wyn Jones.