Morgannwg yn fuddugol yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers Blwyddyn

Y sir Gymreig wedi curo Sussex o naw wiced yng Nghaerdydd

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Gerddi Sophia

Gerddi Sophia, Caerdydd

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).

Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.

Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.

Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.

Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.

Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.

Gemau’r gorffennol

Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.

Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.

Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.

Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.

Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales

18:19

Mae blwyddyn yn amser hir iawn.

Fe fu newidiadau lu yn y clwb dros y deuddeg mis diwethaf, ac mae’r fuddugoliaeth yn dyst i weledigaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn, oedd wedi addo ar ddechrau’r tymor y byddai Morgannwg yn gystadleuol ac yn bositif.

Dydy’r bowlwyr ddim wedi tanio cyn y gêm hon, ond mae Mir Hamza yn edrych fel bowliwr sy’n gallu cipio wicedi ar adegau pwysig. 

Rhaid canmol Andy Gorvin am ei berfformiad gorau erioed (pum wiced am 40). Roedd e dan bwysau yn absenoldeb y prif fowlwyr cyflym, ond fe gamodd e i fyny.

Mae angen bowlio’r gwrthwynebwyr allan ddwywaith i ennill gemau. Mae Morgannwg wedi gwneud hynny, a bydd y fuddugoliaeth hon yn garreg filltir bwysig ar y daith maen nhw arni erbyn hyn.

18:02

BUDDUGOLIAETH!

Un ergyd olaf i’r ffin gan Root, sy’n gorffen yn ddi-guro ar 36.

Morgannwg wedi ennill o naw wiced, a’r dathliadau’n dweud y cyfan!

17:58

Ergyd arall i’r ffin gan Root.

Dau i ennill.

17:56

Tair ergyd yn olynol i’r ffin gan Billy Root.

50 am un. Chwech i ennill.

Taniwch yr injan, bois!

17:45

Wiced i Sussex.

Eddie Byrom allan, wedi’i ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Ari Karvelas am 21.

Morgannwg 33 am un. 

Y capten Sam Northeast sy’n dod i’r llain.

17:38

Mae Morgannwg yn mynd amdani.

20 heb golli wiced yn y drydedd pelawd.

17:32

Flwyddyn yn ôl i’r wythnos hon enillodd Morgannwg eu gêm Bencampwriaeth ddiwethaf – i’r diwrnod bron…!

Daeth honno yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

17:29

Eddie Byrom a Billy Root sy’n agor y batio i Forgannwg. 56 yw’r nod.

17:20

Llongyfarchiadau i Andy Gorvin ar ei ffigurau gorau erioed – pum wiced am 40.

25 pelawd fydd gan Forgannwg i’w hwynebu heno.

17:19

Wiced!

Jayden Seales wedi’i ddal gan Mir Hamza. Ail wiced yn y belawd i Crane.

Sussex i gyd allan am 188.

56 yw’r nod i Forgannwg.