Mae disgwyl i Erol Bulut, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, gynnal trafodaethau â’r Adar Gleision, yn y gobaith o lofnodi cytundeb newydd.
Daw hyn ar ôl i Vincent Tan, perchennog y clwb, roi ei sêl bendith.
Bydd cytundeb blwyddyn y rheolwr yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac mae lle i gredu y bydd yr arian fydd ar gael iddo fe’n un o’r prif bynciau trafod.
Fe fu’r clwb dan embargo trosglwyddiadau haf diwethaf, oedd yn golygu nad oedd modd prynu chwaraewyr o glybiau eraill am gyfnod, a phrin iawn oedd yr arian oedd ar gael ym mis Ionawr.
Maen nhw wedi bod yn brwydro yn erbyn y gwymp dros y ddau dymor diwethaf, ond byddan nhw’n gorffen yng nghanol y tabl y tymor hwn, a hwythau’n ddeuddegfed gydag un gêm yn weddill.
Osgoi’r gwymp oedd y nod yn ôl ei gytundeb.