Roedd diweddglo emosiynol i ymgyrch menywod rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros y penwythnos, wrth iddyn nhw gael y llwy bren wrth guro’r Eidal o 22-20 yng ngêm ola’r gystadleuaeth.

Roedd y prif hyfforddwr Ioan Cunningham yn ei ddagrau ar ddiwedd yr ornest yn Stadiwm Principality Caerdydd, ar ôl bod dan gryn bwysau ar y cyfryngau cymdeithasol ac o ran ei swydd.

Ond roedd yn mynnu bod y pwysau’n “fraint”, a’i fod e, yn sgil y fuddugoliaeth, “mor falch dros y chwaraewyr gan eu bod nhw’n gweithio mor galed”.

Wrth iddo fe siarad â’r wasg, fe wnaeth y chwaraewyr daflu bwced o ddŵr drosto fe, a bu’n rhaid iddo fe newid cyn dechrau cynhadledd y wasg.

Dywedodd e fod y dathliadau’n “dangos llawer o emosiwn”, a bod y chwaraewyr wedi dangos “llawer o ymdrech” ond wedi cael “llawer o siom” hefyd.