Mae tîm criced Pacistan wedi penodi dau brif hyfforddwr sydd â chysylltiadau â chriced yng Nghymru.

Jason Gillespie, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, sydd wedi’i benodi i arwain y tîm prawf, tra bod Gary Kirsten, cyn-brif hyfforddwr y Tân Cymreig, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr y timau undydd.

Mae Gillespie wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd.

Mae gan y ddau brofiad helaeth, gyda Gillespie wedi arwain Swydd Efrog i dlws y Bencampwriaeth yn 2014 a 2015, a Kirsten wedi arwain timau cenedlaethol India a De Affrica i frig y rhestr detholion mewn gemau prawf.

Bydd Pacistan yn herio Lloegr – sydd dan arweiniad Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg – mewn pedair gêm ugain pelawd fis nesaf, gan gynnwys un gêm yng Nghaerdydd ar Fai 28.

Bydd tîm prawf Lloegr – dan arweiniad Brendon McCullum, cyn-chwaraewr tramor Morgannwg – yn teithio i Bacistan yn ddiweddarach eleni.

Daw’r penodiadau ar ôl i Grant Bradburn, cyn-hyfforddwr Pacistan, adael ei swydd a chael ei benodi’n brif hyfforddwr Morgannwg.

Cyhoeddodd Jason Gillespie fis diwethaf y bydd yn gadael ei swydd gyda De Awstralia a Hobart Hurricanes ym mis Mehefin.