Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi ymestyn cytundeb yr ymosodwr o Gymro, Liam Cullen.

Roedd cymal yn ei gytundeb blaenorol fod modd i’r clwb ymestyn ei gytundeb am dymor arall, ac maen nhw wedi dewis gwneud hynny.

Mae’r rheolwr Luke Williams hefyd wedi canmol ei berfformiadau diweddar, ar ôl i’r chwaraewr 25 oed o Sir Benfro sgorio saith gôl a chreu pedair y tymor hwn, wrth gyrraedd y garreg filltir o gant o gemau i’r clwb eleni.

Yn ôl y rheolwr, mae Liam Cullen wedi dangos gwir angerdd dros y clwb.

“Dw i’n hapus â llawer o bethau dw i’n eu gweld gan Culls,” meddai.

“Mae ei ymrwymiad a’i redeg dros y tîm wedi bod yn anhygoel, ond mae yna ddeallusrwydd yn mynd gyda hynny hefyd.

“Dyw e ddim yn rhedeg o gwmpas yn wallgof, ac mae e’n gwneud penderfyniadau da.

“Dw i’n gwybod ei fod e’n gallu sgorio goliau, a dw i eisiau iddo fe fod yn fwy didrugaredd eto fyth, oherwydd dw i’n credu ynddo fe ac mae e’n aelod mor werthfawr o’r garfan.

“Mae e’n deall llawer o bethau am y clwb a sut dw i eisiau i’r chwaraewyr berfformio.

“Mae e wedi ennill yr hawl i danio’r opsiwn [i ymestyn ei gytundeb].”