Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi marwolaeth George Baker, aelod o garfan bêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd 1958.

Yn gyn-asgellwr ac ymosodwr, bu farw’n 88 oed.

Cyrhaeddodd Cymru rownd wyth ola’r twrnament hwnnw, ac roedd yn bresennol yn Tylorstown, ei dref enedigol, wrth i Gymru gyhoeddi eu carfan ar gyfer Cwpan y Byd 64 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn 2022.

Er iddo fe gael ei ddewis yn y garfan o 22 chwaraewr yn 1958, aeth e ddim ar yr awyren i Sweden.

Yn ystod ei yrfa, bu’n chwarae i dimau Plymouth Argyle, Amwythig a’r Barri.

Ar ôl ymddeol, bu’n un o reolwyr pwll glo brig yn y cymoedd.

“Mae meddyliau pawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist hon,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru.