Dylai gemau rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad barhau i gael eu dangos yn rhad ac am ddim, yn ôl Pwyllgor Chwaraeon y Senedd.

Mae’r pwyllgor yn dadlau y dylai’r bencampwriaeth gael ei diogelu ar gyfer ei darlledu ar wasanaethau rhad ac am ddim, a derbyn statws tebyg i rownd derfynol Cwpan FA Lloegr a’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Mae’r digwyddiadau hynny’n rhai Grŵp A fel rhan o drefn digwyddiadau rhestredig dan Ddeddf Darlledu 1996, ac felly yn cael eu dangos am ddim.

Ar hyn o bryd, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dod o dan Grŵp B, ond mae’r Pwyllgor am i Ysgrifennydd Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y Deyrnas Unedig ei huwchraddio.

Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r alwad.

“Mae gan rygbi rôl unigryw yn ein bywyd cenedlaethol, ac mae lle arbennig i dwrnamaint y Chwe Gwlad yng nghalonnau cynulleidfaoedd Cymru,” meddai Delyth Jewell, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.

“Roedd hyn ar flaenau ein meddyliau wrth ddod i’r penderfyniad i alw am ei ddiogelu fel darllediad rhad ac am ddim.

“Rydym wedi clywed yn blwmp ac yn blaen am yr heriau sy’n wynebu’r gamp wrth i nifer y bobl sy’n chwarae rygbi leihau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi clywed pryderon ynghylch effaith gosod y twrnamaint y tu ôl i wal dalu a sut y gall hyn effeithio ar y nifer o bobl sy’n chwarae rygbi – yng ngeiriau un o’r bobl fu’n siarad â ni ’rhaid i chi ei weld, er mwyn ei wneud’.

“Mae llawer yn cydnabod yr effeithiau niweidiol o ganlyniad i roi criced yn y Deyrnas Unedig y tu ôl i wal dalu yn 2006.

“Rhwng 2006 a 2015, bu gostyngiad o 32% yn nifer y bobol sy’n chwarae criced. Allwn ni ddim gadael i’r un peth ddigwydd i rygbi.

“Wrth dyfu i fyny, mae pobol ifanc yng Nghymru yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy wylio rygbi, ac mae’n hanfodol bod twrnament y Chwe Gwlad ar gael i bawb.”

Darlledu yn Gymraeg

Mae’r pwyllgor hefyd yn credu bod yn rhaid diogelu darlledu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Gymraeg, ac mae’r adroddiad heddiw yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau i ddiogelu darlledu twrnament y Chwe Gwlad yn gwbl Gymraeg.

“Rhaid cynnig y gemau yn y Gymraeg yn llawn,” meddai Delyth Jewell.

“Mae darlledu yn Gymraeg yn hanfodol, nid yn unig o ran cynnig dewis i siaradwyr Cymraeg, ond hefyd er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg i siaradwyr a dysgwyr fel ei gilydd wrth inni weithio tuag at darged Cymraeg 2050.”

Gawn ni fwy o sylwebaethau ar Radio Cymru?

Alun Rhys Chivers

Cafodd gêm ryngwladol Cymru yn erbyn Gwlad Pwyl ei darlledu ar yr orsaf, ond lleihau mae’r sylw i gemau domestig canol wythnos, medd golygydd golwg360