Roedd cryn ganmoliaeth i sylwebaeth S4C o gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Gwlad Pwyl (nos Fawrth, Mawrth 26), gyda Nic Parry ac Owain Tudur Jones yn sylwebu ar y gêm ar Sgorio.

Yn rhan o’r tîm hefyd roedd y cyflwynydd Dylan Ebenezer, y dadansoddwyr Joe Allen a Gwennan Harries, a’r gohebydd ar yr ystlys Sioned Dafydd. Dim ond ar S4C roedd y gêm yn cael ei darlledu’n rhad ac am ddim, a dyna’r unig ffordd o wylio’r cyffro oni bai eich bod chi’n tanysgrifio i’r sianel Viaplay. Roedd y rhaglen yn cael ei disgrifio fel “agoriad llygad”, ac fel sylwebaeth sydd “filltiroedd ar y blaen” i wasanaethau eraill.

Fe ddaliodd sylw nifer o bobol flaenllaw hefyd, gan gynnwys y cyflwynydd chwaraeon Gabby Logan – merch Terry Yorath, cyn-reolwr Cymru, a’r cyflwynydd radio Danny Baker. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud:

“I’m watching Wales v Poland on BBC Cymru. I don’t speak any Welsh yet the universal timbre, rhythms, cadences and bantering of the commentary team lets me know exactly what they are saying. It’s a revelation.”

Danny Baker

“I watched the match on S4C tonight, which was delightful.”

Gabby Logan

…ond llai o chwaraeon ar y radio

I’r gwrthwyneb, mae golwg360 wedi sylwi bod llai o chwaraeon yn cael ei ddarlledu ar donfeddi Radio Cymru a Radio Cymru 2 erbyn hyn, er bod y gêm fawr neithiwr wedi cael sylw haeddiannol.

Ers dechrau’r tymor pêl-droed, mae Radio Cymru a Radio Cymru 2 wedi rhoi’r gorau i ddarlledu gemau domestig canol wythnos – gan gynnwys gemau Wrecsam wrth iddyn nhw anelu am ddyrchafiad arall – er bod gemau rhyngwladol yn dal i gael eu darlledu’n genedlaethol. Pryd, tybed, oedd y tro diwethaf i chi glywed gêm gynnar neu hwyr ar y radio yn Gymraeg ar ddydd Sadwrn? Ac mae hynny’n cynnwys y gêm ddarbi fawr rhwng Abertawe a Chaerdydd – un o gemau mwya’r calendr pêl-droed yng Nghymru.

Mae’r un yn wir am gemau ar ddydd Sul hefyd, a’r unig eithriad y tymor hwn hyd yma yw gêm gwpan fawr Casnewydd – un o’r gemau mwyaf yn eu hanes – yn erbyn Manchester United, gafodd ei gwthio i Radio Cymru 2 yn unig. O edrych ar y bêl hirgron, gêm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yw’r unig ornest ddydd Sul sydd wedi cael sylw.

Mae Radio Cymru 2 bellach yn darlledu mwy o oriau o gerddoriaeth, ar ôl ennill statws darlledwr cyhoeddus ym mis Ionawr. Ond yn rhyfedd ddigon, mae llai o chwaraeon ar yr orsaf bellach. Gyda Radio Cymru yn darlledu am ddeunaw awr a hanner y dydd, a Radio Cymru 2 ar yr awyr am 17 awr y dydd, mae’r cyfan yn cyfateb i gyfanswm o 248 awr a hanner yr wythnos. Mae Ar y Marc yn rhaglen hanner awr a Chwaraeon Radio Cymru yn darlledu dair awr a hanner, sy’n gyfanswm o bedair awr o chwaraeon ar y penwythnos.

Tu hwnt i sylwebaethau byw, does dim bwletinau wedi’u neilltuo ar Radio Cymru yn y prynhawniau erbyn hyn, gydag ychydig frawddegau’n cael eu hyngan gan y cyflwynydd ar ddiwedd bwletin newyddion cyffredin.

At ei gilydd, felly, mae llai na 2% o holl oriau darlledu’r gorsafoedd Cymraeg yn cael eu neilltuo ar gyfer chwaraeon – un o’n prif ddiddordebau ni fel cenedl.

Ymateb BBC Cymru

Wrth ymateb, mae BBC Cymru yn honni nad yw’r ffigwr o 2% yn gywir, ac yn dweud bod “chwaraeon yn rhan ganolog a phwysig o arlwy Radio Cymru, o’r sylw cynhwysfawr i chwaraeon ar raglen Dros Frecwast i raglen Chwaraeon Radio Cymru, fydd yn darlledu yfory, dydd Sadwrn a phrynhawn Llun gan ddod â bwrlwm y caeau chwarae i’n tonfeddi dros benwythnos y Pasg”.

Mae faint o oriau sy’n cael ei neilltuo i chwaraeon ar Radio Cymru yn newid o wythnos i wythnos, yn ôl llefarydd.

“Ond hyd yn oed os yn cyfri oriau estynedig Radio Cymru 2, dydi’r ganran byth o dan 2%,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’n werth dweud erbyn hyn, nad yw’n briodol cynnwys oriau Radio Cymru 2, gan mai gorsaf gerddoriaeth ydi hi a hynny ers i’r oriau ymestyn ddechrau mis Mawrth.

“Yr wythnos yma er enghraifft, mae 10.4% o oriau Radio Cymru yn cael eu neilltuo i Chwaraeon.

“Fel y gŵyr ein gwrandawyr, mae campau o bob math hefyd yn britho ein harlwy gydol y dydd.

“Mae’r ffigwr o lai na 2% a nodir yn yr erthygl yn gwbl anghywir.

“Rydym hefyd yn falch o’r sylw helaeth sydd i chwaraeon ar-lein ar wefan BBC Cymru Fyw.”