Ddeufis cyn dechrau Eisteddfod yr Urdd 2024, mae criw o blant a phobol ifanc lleol ym Maldwyn wedi bod yn plannu 40 o goed ar safle’r ŵyl heddiw [dydd Mercher, Mawrth 27].

Nid seremoni torri tywarchen a fu eleni er mwyn nodi dechrau’r gwaith o baratoi Maes yr Eisteddfod, ond yn hytrach seremoni plannu coed i ddathlu partneriaeth newydd rhwng yr Urdd a Choed Cadw, elusen gwarchod coedwigoedd fwya’r Deyrnas Unedig.

Eleni, bydd Coed Cadw yn noddi’r Arddorfa, sef yr ardd wyllt sy’n fodd i blethu’r amgylchedd a’r celfyddydau’n un.

Mae’r coed sydd wedi’u plannu ar hyd ffin safle’r Eisteddfod yn rai cynhenid i’r ardal, ac yn rhodd gan yr elusen.

Dywed Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd, eu bod nhw’n “edrych ymlaen at ymweld â Maldwyn am y tro cyntaf ers 1988″, a bod eu gwirfoddolwyr ac aelodau wrthi’n brysur yn paratoi i groesawu pawb i’r ardal.

“Mae sicrhau gwaddol ar ôl yr Eisteddfod yn rhan bwysig o weledigaeth yr ŵyl, ac mae plannu coed ar hyd ffin y Maes yn symbolaidd o hynny,” meddai.

Ymgysylltu â’r byd awyr agored

“Rydym ni wrth ein boddau ein bod yn gweithio gyda’r Urdd i gynnig cyfle cyffrous i blant gymryd rhan yn ein cystadlaethau,” meddai Llinos Humphreys, Rheolwraig Cyfathrebu ac Ymgysylltu Coed Cadw.

“Ein gobaith yw cael plant a phobol ifanc i ymgysylltu â’r byd awyr agored, gan ddefnyddio eu sgiliau i archwilio byd natur a mwynhau amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.”

Bydd dwy gystadleuaeth yn cael eu beirniadu gan banel Coedwigoedd a Choed, fydd yn cynnwys un o’u gwirfoddolwyr ifanc Tammie Esllemont.

Un gystadleuaeth yw ‘Her Geiriau a Lluniau Coetiroedd’, a’r ail yw ‘Archwilio Safbwyntiau Gwahanol’. Dyddiad cau’r ddwy gystadleuaeth yw 30 Ebrill.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr Arddorfa yn ystod wythnos yr Eisteddfod (Mai 27 – Mehefin 1), fydd yn cael ei chynnal ar gaeau Fferm Mathrafal ger Meifod.