Mae’r cerddor Lleuwen Steffan yn dweud bod ei phrosiect diweddaraf, Tafod Arian, yn “rhoi llais newydd i leisiau’r gorffennol”.
Bu’r cerddor, sy’n byw yn Llydaw, yn teithio o amgylch capeli’n cyflwyno Emynau Coll y Werin, ar ôl bod yn tyrchu yn yr archifau i ddarganfod rhai o emynau llai cyfarwydd y genedl, ac i glywed nifer o leisiau’r gorffennol yn trafod Diwygiad 1904-05.
Maes o law, bydd hi’n cydweithio â nifer o gerddorion o Gymru a Llydaw – Gethin Elis o’r band Cyn Cwsg, Breig Guerveno a Nolwenn Korbell o Lydaw, a Sioned Webb (telyn a phiano).
Dywed y bydd y cerddorion o Lydaw yn dod i Gymru i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac i ŵyl Llais, gyda’r cerddorion o Gymru’n mynd draw i Lydaw i berfformio yng ngŵyl Lorient ac i rannau eraill o’r byd yn 2025.
Yn ôl y cerddor, fe fu’r bartneriaeth rhyngddi hi, yr Eisteddfod a’r Cyngor Prydeinig yn hanfodol er mwyn i Tafod Arian weld golau dydd.
Cydweithio
Mae Lleuwen Steffan yn awyddus i bwysleisio na fyddai’r prosiect hwn yn bosib heb gefnogaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Cyngor Prydeinig.
“Heb Elen Elis o’r Eisteddfod Genedlaethol, fysa’r prosiect yma ddim wedi mynd allan o fy stiwdio fach yn fy nghartref, achos roeddwn i’n siarad am y prosiect efo gwahanol gerddorion, labeli recordio, a doedd neb wir efo llawer o ddiddordeb,” meddai wrth golwg360.
“Ar y pryd, roeddwn i wedi bod yn sgwennu lot o ganeuon ac roedd pobol eisiau i fi sgwennu mwy o ganeuon, ac roeddwn i’n gweld pobol yn meddwl, ‘Be’ mae hon yn gwneud?’ ar eu hwynebau pan oeddwn i’n siarad!
“Ond wnaeth Elen Elis wir annog fi i ddod â’r ymchwil yma allan yn hytrach na’i gadw fo i fi fy hun.
“Mae’r prosiect yn cychwyn ar hyn o bryd efo fi yn mynd o amgylch capeli yn gwneud emynau llafar gwlad y Cymry.
“Trwy’r gwaith yma dw i wedi’i wneud, dw i wedi hel yr emynau gwerin yma a chreu cerddoriaeth newydd i fynd efo nhw mewn math o gynhyrchiad.
“Dw i’n datblygu hwnna efo partneriaeth efo’r Eisteddfod Genedlaethol, a thrwy’r Eisteddfod Genedlaethol rydyn ni wedi cael y cynnig yma gan y British Council i ehangu ar y gwaith.”
Ond mae yna elfen o gydweithio â’r gynulleidfa hefyd.
“Beth dw i am wneud ydy datblygu ac esblygu trwy ddefnyddio’r archifau dw i’n eu cael gan bobol tra dw i ar y daith capeli,” meddai wedyn.
“Tra dw i ar y daith capeli yma’n gwneud yr emynau gwerin, mae pobol yn cysylltu efo fi i roi mwy o emynau i mi, emynau traddodiadol, mwy o recordiadau, mwy o dudalennau o hen lyfrau nodiadau teuluol.
“Ac wedyn, dw i’n defnyddio’r gwaith yna mae’r gynulleidfa’n ei roi i mi i ddatblygu gwaith Tafod Arian.
“Dw i wedi mynd am emynau sydd ddim yn adnabyddus ac am ddeunydd archif ynglŷn â thraddodiad capel Cymru, mewn ffordd.
“Dim ond ar ôl siarad efo Elen yn ystod Covid dros Zoom am ryw brosiect arall wnes i ddechrau ystyried gwneud rhywbeth cyhoeddus efo’r archif yma.”
Tafod Arian
Roedd Tafod Arian yn weledigaeth oedd yn digwydd yn aml yn ystod Diwygiad 1904-05, yn ôl y cerddor.
“Roedd sawl un mewn sawl lle yng Nghymru’n dweud eu bod nhw wedi gweld tafodau arian yn disgyn o’r awyr ac i mewn i’r ddaear,” meddai.
Mae un o’r rheiny yn ganolog i brosiect y cerddor.
“Mae genna’i recordiad o ddynes o’r enw Anne Mainwaring o Fargam, oedd yn sôn ei bod hi wedi gweld [tafodau arian].
“Mae llais Anne Mainwaring yn flaenllaw iawn yn y gwaith yma, achos dw i’n defnyddio’i llais hi yn y miwsig, felly cyfeirio at rywbeth welodd hi ydw i.
“Roedd hi’n sôn ei bod hi wedi gweld tafod arian yn disgyn o’r awyr, ac roeddwn i’n meddwl ‘Pam lai?’
“Mewn ffordd, dw i’n cyfeilio – a’r band yn cyfeilio – ac yn canu cefndir i leisiau o’r gorffennol, a dw i’n eu gosod nhw mewn cyd-destun newydd.
“Y lleisiau archif yma sydd ar flaen y llwyfan, os lici di.”
Cerddoriaeth sanctaidd yn falm i’r enaid
Yn ôl Lleuwen Steffan, roedd hi’n awyddus iawn i wahaniaethu rhwng traddodiad cerddoriaeth werin Cymru a’r math o gerddoriaeth sanctaidd sy’n ganolog i’r prosiect hwn.
“Dw i’n frwd iawn am gerddoriaeth sanctaidd o Gymru a’r ffaith ein bod ni wedi bod, mewn ffordd, yn categoreiddio’r emynau mewn bocs ar wahân i gerddoriaeth werin,” meddai.
“Ac mae yna lot fawr o’r emynau yma’n rhan annatod o gerddoriaeth werin Cymru.
“Roeddwn i wedi gwneud yr ymchwil yma ers dros ddegawd yn Sain Ffagan, yn mynd yn ôl ac ymlaen yn hel yr emynau yma o’r archif sain, ac roeddwn i’n gwneud hynna i fy lles i fy hun, achos roedden nhw’n dda i mi, yn gwneud lles i mi, ac yn beth roeddwn i’n ei angen ar y pryd.
“Yn ogystal â maeth bwyd rydyn ni’n dewis ei roi yn ein cyrff, mae yna faeth arall i’w gael hefyd, ac os ydych chi’n rhoi eich sylw ar y pethau lle mae daioni, mae hwnna yn mynd i mewn i’ch bywyd chi wedyn.
“Yn yr un ffordd, os oeddwn i’n rhoi fy sylw i bethau mwy negyddol, rhai pethau roeddwn i’n canu amdanyn nhw yn fy nghaneuon fy hun, roeddwn i’n ymgnawdoli’r negyddiaeth yna.
“Dw i’n awyddus, trwy’r gwaith yma gyda’r Eisteddfod a’r Cyngor Prydeinig, i ledaenu’r gair ymhellach a dangos i gynulleidfaoedd yn Ffrainc ac yng ngweddill y byd bod cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn gerddoriaeth ysbrydol iawn, llawer iawn ohono fo.”
Gweithio’n amlieithog
A hithau’n Gymraes sy’n byw yn Llydaw, mae Lleuwen Steffan yn gweithio mewn pedair iaith ar y daith hon – Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Llydaweg.
Ond sut dderbyniad mae’r gwaith yn ei gael yn yr ieithoedd hynny, ac ydy’r derbyniad yn amrywio o un iaith i’r llall?
Ydy, “yn fawr iawn”, meddai.
“Mae yna lot o egluro achos mae rhaid rhoi’r emynau yn eu cyd-destun.
“Felly, yr her i fi ydi’r holl ieithoedd yma – weithiau dw i’n egluro yn Ffrangeg, weithiau dw i’n ei wneud o yn Llydaweg, ac yng Nghymru os oes yna bobol ddi-Gymraeg yn y gynulleidfa, dw i’n egluro cefndir yr emynau yn Saesneg hefyd.
“Wrth gwrs, i bobol yn Llydaw i glywed yr hwyl Gymreig ac ati, mae’n hollol ecsotig. Mae’n ecsotig yng Nghymru 2024 heb sôn am yn Llydaw!
“Ond mae gen bobol ddiddordeb a chwilfrydedd, a dw i’n teimlo bod o’n fraint i allu rhannu’r rhan yma o Gymru efo’r byd, achos mae’r ffordd dw i’n cyflwyno’r gerddoriaeth, er yn hen gerddoriaeth – dw i’n defnyddio synth a samplau ac ati – mae’n gyferbyniad eitha’ trawiadol o’r newydd a’r hen.
“Ond mae pobol wir yn gwerthfawrogi cyfoeth cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg.”
- Cafodd Tafod Arian ei ddatblygu diolch i gefnogaeth gan British Council Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o Gronfa Ddiwylliannol Cymru-Ffrainc.