Dyma gyfres newydd lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi eu helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg.
Y tro yma, Gill Kinghorn, sy’n byw ger Castell Newydd Emlyn yng Ngheredigion, sy’n dweud beth yw ei hoff raglenni. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd a hanner. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru. Mae hi’n dod o Loegr yn wreiddiol. Mae Gill bellach wedi ymddeol.
Gill, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?
Dw i’n gwylio llawer o raglenni ar S4C ac ar iPlayer. Dw i’n hoffi Am Dro, Newyddion S4C, Popeth yn Gymraeg, Cynefin, Arfordir Cymru, Iaith ar Daith, Dal y Mellt, Craith, Y Gwyll (Hinterland), Y Golau, a’r ffilm Y Sŵn. Dw i’n gwylio gormod o deledu!
Ond fy hoff raglen ar S4C yw Cefn Gwlad.
Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?
Dw i’n mwynhau dysgu mwy am Gymru yn enwedig am gefn gwlad yn fy ardal i. Mae’r rhaglenni yn dangos y bobl a lleoedd o gwmpas Cymru. Mae’r rhaglen yn ddiddorol iawn.
Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?
Dw i’n hoffi’r cyflwynwyr yn fawr. Mae Mari Lovgreen ac Ifan Jones Evans yn gyfeillgar, doniol a llawn brwdfrydedd. Maen nhw’n ddiffuant iawn.
Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Dw i ddim yn siŵr os ydy Cefn Gwlad yn rhaglen dda i ddysgwyr ond dw i’n gwylio gydag isdeitlau. Mae’n rhy anodd i fi heb isdeitlau ar hyn o bryd achos mae pawb yn siarad yn gyflym gyda gwahanol acenion. Ond dw i’n deall mwy nawr.