Bydd y gyfres newydd Tanwen & Ollie ar S4C yn dilyn Tanwen Cray, cyflwynydd tywydd y sianel, ac Ollie Cooper, ei phartner sy’n bêl-droediwr i Abertawe, yn yr wythnosau sy’n arwain at enedigaeth eu merch.

Nod y rhaglen yw ceisio codi’r tabŵ am fod yn rhieni ifanc.

Cafodd Neli Meillionen Awen Cooper ei geni ddiwedd mis Ionawr.

Bydd y bennod gyntaf ar gael ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Hansh, S4C Clic, BBC iPlayer ac YouTube heddiw (dydd Iau, Mawrth 28).

Yn cymryd rhan yn y rhaglen hefyd fydd rhieni Tanwen Cray, sef y gyflwynwraig Angharad Mair a’r dyn camera Joni Cray.

Profiad gonest o fod yn feichiog

Gobaith Tanwen Cray yw y bydd y gyfres yn dangos gonestrwydd y profiad o fod yn feichiog yn ifanc, a hynny ar ôl wynebu beirniadaeth.

“Mae lot o bobol eisiau rhoi eu barn nhw ar ddisgwyl babi a bod yn fam ifanc a mae pawb yn sôn am ba mor anhygoel mae beichiogrwydd yn gallu bod – bod e’n hawdd a’r pregnancy glow – ond dim fel yna mae e wedi bod i fi o gwbl,” meddai.

“Fi wedi cael diwrnodau lle fi’n teimlo’n isel, a fi wedi cael diwrnodau lle fi’n teimlo yn rili dda am fi fy hun hefyd.”

Sonia am ddisgwyliadau’r gymdeithas fod unigolyn yn gorfod gweithio’n galed a chael plant wedyn, ac felly dechreuodd ystyried fod cael plant yn rywbeth iddi i’r dyfodol.

“Oherwydd hyn, ar y dechrau, oni’n teimlo fel ‘that’s the end of my career’ – ond dyw e ddim yn wir o gwbl!” meddai.

“Falle bod e’n golygu bach o frêc, ond dyw e’n sicr ddim yn meddwl bod dim gyrfa yn mynd i fod gyda fi.”

‘Sbesial’

Ychwanega Ollie Cooper ei bod yn “rili sbesial i gael ffilmio’r cyfnod cyffrous yma ym mywydau Tanwen a fi”.

“Roedd e’n brofiad gwahanol i fi – dw i wedi arfer gyda camerâu yn dilyn fi ar y cae pêl-droed, ond ddim adref!” meddai.

“Fydd e’n rhywbeth arbennig iawn i gael edrych yn ôl arno a chofio sut beth oedd yr wythnosau hynny cyn i Neli gyrraedd y byd.”

Erbyn heddiw, mae’r cwpl wedi addasu i fywyd fel rhieni newydd, ac mae Neli bellach yn saith wythnos oed.

“Mae hi wedi dechrau gwenu ac mae mwy o bersonoliaeth gyda hi,” meddai ei thad.

“Oedd e lot anoddach yn y pythefnos cyntaf, ond erbyn hyn mae bach mwy o routine.

“Fi ddim yn gallu dychmygu fy mywyd i heb Neli – mae hi jest yn rhan o’n bywydau ni nawr sy’n rili, rili neis.”

Tad-cu yn ffilmio

Joni Cray, tad Tanwen, sydd wedi ffilmio’r gyfres ac roedd hynny’n hynod arbennig, meddai hi.

“Roedd e’n golygu bod yn rhan o’r rhaglen trwy ein ffilmio ni yn lle bod o flaen y camera – dyw Dad ddim yn hoffi bod o flaen y camera!

“Dechrau rhoi cwtshys i Neli yn cadw fi fynd!”

Er bod y gyfres yn croniclo cyfnod arbennig i’r teulu, cafodd Angharad Mair lawdriniaeth fawr ar ei stumog bythefnos ar ôl genedigaeth Neli.

Roedd yn gyfnod anodd iddi, ac fe olygodd nad oedd hi’n gallu bod yn gymaint o help llaw i’w merch yn y cyfnod cynnar ag yr oedd wedi gobeithio.

“Mae jest yn dangos shwt mae bywyd yn gallu taro rhywun yn annisgwyl iawn,” meddai.

“Ond roedd meddwl am gael dod ma’s o’r ysbyty a dechrau rhoi cwtshys i Neli yn cadw fi fynd!”

Er hynny, roedd hi’n teimlo’n hynod gyfforddus o flaen y camera – ychydig yn rhy gyfforddus o dro i dro!

“Ar adegau, bob tro oni’n gweld camera – achos fi ‘di arfer cyflwyno – roedd tueddiad gyda fi i edrych ar y camera ac eisiau esbonio popeth!

“Oni’n gorfod meddwl mewn ffordd wahanol am y camera felly roedd hynny’n ddifyr.

“Mae’n hyfryd i gael bod yn fam-gu!

“Mae’n gyfnod hapus iawn – wrth gwrs, mae rhywun yn poeni, fel mam, am y cyfnod cyn y geni ond wedi unwaith mae’r babi bach yn dod, mae’n hyfryd!”