Mae sefydliad yng Nghaerdydd wedi derbyn dros £400,000 o arian gan y Loteri Genedlaethol i hyfforddi pobol ifanc sy’n ddi-waith, neu mewn perygl o ddiweithdra, i berfformio yng Nghynhadledd Gerddoriaeth y brifddinas.
Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal ddydd Mawrth (Ebrill 2) yng Nghlwb Ifor Bach yng nghanol y brifddinas, er mwyn cefnogi artistiaid ifanc a rhoi cyfle iddyn nhw rwydweithio.
Ministry of Life Education mewn partneriaeth â Ministry of Life Youth Services fydd yn cynnal y digwyddiad.
Mae’r prosiect cerddoriaeth ieuenctid yn darparu llwybr amgen i addysg i bobol ifanc rhwng 16 a 25 oed, a bydd y grant yn caniatáu cynnal cyrsiau sy’n helpu pobol ifanc i ddatblygu sgiliau fel rapio a recordio, yn ogystal â gwella eu hyder a’u hunan-barch.
“I fod yn onest, dyma’r peth gorau dw i erioed wedi’i wneud yn fy mywyd,” meddai Amelia, cyn-fyfyriwr Ministry of Life Education, sy’n perfformio o dan yr enw Mill$.
“Dw i wastad wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth, ond doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai’r llais gen i i’w wneud.
“Mae dod yma wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl.
“Dwi wedi dod o hyd i fy hun ac wedi dod o hyd i fy sain.
“Mae’n teimlo fel adre. Mae pawb mor neis a chroesawgar, ac mae’n lle mor dda i fod.”
“Hoelion wyth” sîn gerddoriaeth Caerdydd
Yng Nghynhadledd Gerddoriaeth Caerdydd, bydd perfformiadau gan fyfyrwyr Ministry of Life Education ochr yn ochr â hoelion wyth sîn gerddoriaeth Gymraeg Caerdydd a Chymru, gan gynnwys Local a Sage Todz.
Mae’r prosiect wedi tynnu ar brofiadau pobol ifanc o bob rhan o’r ddinas, gyda llawer heb brofiad cerddorol blaenorol.
Roedd yn galluogi pobol i lywio eu taith gerddorol eu hunain gyda llawer o’r myfyrwyr yn dweud mai’r perfformiad yn y Gynhadledd yng Nghlwb Ifor Bach yw uchafbwynt eu datblygiad cerddorol.
“Mae’n wych bod pobl o gefndiroedd amrywiol yn gallu dod at ei gilydd yng Nghynhadledd Gerddoriaeth Caerdydd eleni,” medd Gareth Williams, Rheolwr Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
“Rydym yn falch o ariannu prosiectau fel Ministry of Life Education, sy’n helpu pobl ifanc i ffynnu, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.”
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal rhwng 1yp ac 8yh, ac yn cynnwys perfformiadau gan amrywiaeth o artistiaid Ministry of Life Education.