Bydd y gyfres Ar Brawf yn dangos gwaith y Gwasanaeth Prawf yn y gymuned, a hynny am y tro cyntaf erioed yng Nghymru a Lloegr.

Bydd pob pennod yn dilyn dau droseddwr sydd yn cael eu rheoli yn y gymuned gan Swyddogion Prawf Gwynedd a Môn.

Wedi’i gynhyrchu gan gwmni Darlun, mae’r gyfres wedi bod yn ffrwyth llafur pedair blynedd o waith, ers i’r cwmni rannu swyddfeydd dros dro gyda’r Gwasanaeth Prawf yng Nghaernarfon yn ystod cyfnod Covid-19.

Bydd pennod gyntaf Ar Brawf i’w gweld ar S4C nos Fawrth (Ebrill 2) am 9 o’r gloch, a bydd hi ar gael wedyn ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Lleihau aildroseddu a diogelu’r cyhoedd

Yn 2023, roedd 10,000 o droseddwyr dan ofal y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru, ac mae 30% ohonyn nhw yn debygol o droseddu eto.

Gwaith y Swyddogion yw lleihau aildroseddu, a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.

Mae’r rhaglen gyntaf yn dilyn hanes Martin a Dei.

Mae Martin wedi bod yn y system gyfiawnder ers 21 o flynyddoedd, ers iddo dorri’r gyfraith yn bymtheg oed.

Ac yntau ar fin dod yn Daid, mae’n awyddus i aros allan o’r carchar.

Mae Dei yn wynebu’r sialens o redeg ei fferm deuluol tra’n cwblhau 200 awr o waith di-dâl am greulondeb i anifeiliaid.

Mae’r ddau yn gorfod cwblhau eu cyfnodau prawf heb dorri unrhyw amodau o’u dedfryd, ond os ydyn nhw, mi fydd eu Swyddog Prawf yn eu gyrru’n ôl i’r llys neu’n syth i’r carchar.

Gwaith y tîm o Swyddogion Prawf yw gweithio yn agos gyda nhw a’u rheoli, er mwyn ceisio eu hatal rhag troseddu eto.

Mae Elin Gaffey yn un o’r Swyddogion Prawf sy’n cymryd rhan yn y gyfres.

“Mae’r mwyafrif o’n gwaith ni fel Swyddogion Prawf yn digwydd y tu ôl i’r llenni, ac yn aml yn gallu cael ei gamddeall gan y cyhoedd,” meddai.

“Dw i’n meddwl bydd y gyfres yma yn helpu pobol i ddeall y penderfyniadau cymhleth mae’n rhaid i ni eu gwneud bob dydd er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel.

“Weithiau mae ein gwaith ni’n cynnwys gweithio gyda phobol o gefndiroedd cymhleth, sy’n ei gwneud hi’n heriol iawn, ond mae eu gwylio’n llwyddo yn gwneud y swydd yn un gwerthchweil.”

Anodd, ond da a phositif

“Mae bod dan ofal y Gwasanaeth Prawf am bron i dair blynedd yn olynol wedi bod yn anodd ond mae o hefyd wedi bod yn brofiad da a positif i fi,” meddai Gwenan, sydd hefyd yn ymddangos yn y gyfres.

“O’n i’n lwcus efo Swyddogion Prawf caredig, oedd yn gallu gweld heibio’r drwg wnes i a gweld y da ynddo i.

“Roeddwn i’n cael trafferth mawr gyda fy iechyd meddwl a dibyniaeth, ac mi wnaeth Elin helpu fi efo hynny.

“Alla’i ddim diolch digon iddi am bob dim mae hi wedi helpu fi gyda fo.

“Mae hi hyd yn oed wedi helpu fi efo cael tŷ – dwi rŵan ar y rhestr yn aros i symud.”

‘Her’

“Roedden ni’n gwybod y byddai cael mynediad i’r Gwasanaeth Prawf yn her,” meddai Anna Marie Robinson, cynhyrchydd y gyfres.

“Mae’n rhywbeth sydd heb ei wneud yng Nghymru a Lloegr o’r blaen, ac mi gymerodd y trafodaethau rhyngom ni, y Gwasanaeth Prawf a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder dair blynedd i gael y caniatâd i ddechrau ffilmio’r gyfres ddogfen hollol agored yma.

“Mae’n gyfres bwysig i’w gwneud.

“Dyw’r cyhoedd dal ddim yn ymwybodol o waith dydd i ddydd y Swyddogion Prawf o gymharu â gweithwyr proffesiynol eraill o fewn y system cyfiawnder troseddol, er enghraifft swyddogion carchar, yr heddlu, a’r rhai sy’n gweithio yn y llysoedd.

“Hyd yn hyn, does dim un criw teledu wedi cael y lefel hon o fynediad i’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n fewnwelediad ddiddorol iawn i’r pwysau a’r heriau y mae’n rhaid i swyddogion ddelio â nhw o ddydd i ddydd.”

  • Bydd y gyfres chwe phennod, Ar Brawf, yn cychwyn ar S4C nos Fawrth, Ebrill 2 am 9 o’r gloch.