Dyma gyfres newydd lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C, gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Maike Kittelman o ogledd yr Almaen sy’n cael cyfle i adolygu Nôl i’r Gwersyll.

Mae Maike yn Llyfrgellydd technegol. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd. Dechreuodd ddysgu Cymraeg er mwyn gwybod mwy am yr ieithoedd Celtaidd, hanes Ewrop, ac i fedru siarad efo pobol pan fydd hi’n teithio i Gymru. Mae’n siarad efo ffrind ym Mhwllheli bob wythnos ar-lein. Mae o’n rhedwr mynydd yn ei amser sbâr…


Maike, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?

Y gyfres Nôl i’r Gwersyll. Dyma’r gyfres lle mae grŵp o wersyllwyr yn mynd i aros yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Mae’r gwersyll yn cael ei drawsnewid ar gyfer gwahanol gyfnodau – o’r 1950au hyd at yr 1980au.

Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?

Mae’n wych gweld arfordir Cymru yn yr haf. Mae’n wych dychmygu mynd am wyliau syml eto a chofio’r gwersylloedd lle es i fy hun pan o’n i’n fengach.

Nôl i’r Gwersyll yn y 50au

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr a’r rhai sy’n cymryd rhan?

Maen nhw’n mor ddoniol! Mae’r arweinydd yn llym iawn, ond yn garedig. Fel’na oedd o yn y ’50au! Mae pawb yn gwneud ymdrech i wisgo dillad y cyfnod. Mae’r cyfranogwyr yn trio’n galed i dreulio un penwythnos heb ffôn na theledu. Mae’n anodd i rai ohonyn nhw. Does dim alcohol yn y gwersyll chwaith.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobol sy’n dysgu Cymraeg?

Mae pobol o ardaloedd eraill yng Nghymru’n gwneud gweithgareddau syml ac yn siarad efo’i gilydd. Maen nhw’n chwarae gemau digrif, maen nhw’n tacluso’r pebyll ac yn glanhau, maen nhw’n canu cyn mynd i’r gwely. Mae’n hawdd gweld a deall beth sy’n digwydd ar y sgrin. Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael hefyd.

Nôl i’r Gwersyll yn y 50au

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn siarad iaith y de. Ond mae yna bedair pennod i gyd, a llawer o bobol eraill o bob man yn siarad.

Faset ti’n awgrymu i bobol eraill wylio’r rhaglen?

Byswn! Does dim angen llawer o bethau i gael hwyl. Dim ond byd natur hyfryd, awyr iach, lle cyfforddus a distaw i gysgu, a phobol neis i siarad efo nhw. Dewch ’nôl i’r gwersyll!