Mae Guto Bebb wedi dechrau ar ei waith yn Gadeirydd dros dro S4C, ar ôl olynu Rhodri Williams.
Camodd y cadeirydd blaenorol o’i rôl wrth i’w gyfnod wrth y llyw ddod i ben ddoe (dydd Sul, Mawrth 31), ar ôl penderfynu na fyddai’n aros am ail dymor.
Bu Guto Bebb, sy’n enedigol o Sir y Fflint ond yn byw yng Nghaernarfon, yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Aberconwy, ac yn Weinidog yn Swyddfa Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae ei gefndir ym myd busnes, ac yntau’n gweithio am gyfnod i’r Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau.
Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, ond bydd yn camu i’r rôl newydd ar Ebrill 1 ac yn aros yn y rôl tan o leiaf Fawrth 31, 2025.
Croeso gofalus i’r penodiad
Pan gafodd ei gyhoeddi, roedd Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan, wedi rhoi croeso gofalus i’r penodiad, gan ddweud bod angen i’r “gwaith caled… o fynd i’r afael â phryderon ynghylch llywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad dechrau ar unwaith”.
“Rhaid i’r Ysgrifennydd Diwylliant osod disgwyliadau clir a mynnu safonau uchel o atebolrwydd drwy gydol y broses hon,” meddai.
“Mae angen darlledwr cyhoeddus ar Gymru sy’n bwrw iddi, gan feithrin eu staff a’u sgiliau, dangos rhaglenni ardderchog, a dangos gwerth am arian trethdalwyr.”
Edrych yn ôl dros gyfnod Rhodri Williams
Wrth siarad â rhaglen Bore Sul ar Radio Cymru ddoe (dydd Sul, Mawrth 31), fe fu Rhodri Williams yn edrych yn ôl dros ei gyfnod wrth y llyw, gan ddweud ei fod yn gyfnod o “ddwy stori wahanol”.
“Mae yna stori o lwyddiant, o bethau da sydd wedi digwydd yn y cyfnod.
“Yn bennaf, fysen i’n dweud, ein bod ni wedi llwyddo i drawsnewid S4C o fod yn sianel deledu linol i fod yn wasanaeth sydd yn dosbarthu deunydd clyweledol Cymraeg ar amrywiaeth o lwyfannau, ac felly yn cyrraedd amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
“Roedd llawer o hynny wedi digwydd yn ystod yr hanner cynta’, os licech chi, o ‘nhymor i.
“Yn yr ail hanner o’r tymor, wrth gwrs, fe gododd problemau yn sgil y gwyn dderbynion ni gan yr undeb BECTU ynglŷn ag ymddygiad rhai o’r uchel swyddogion.
“Mae hynny wedi cymryd y flwyddyn ddiwetha’.
“Dw i hefyd yn meddwl bod yna elfen o lwyddiant yn hynny.
“Fe gaethon ni, fel Bwrdd, ein rhoi mewn sefyllfa anodd iawn.
“Roedd y materion roedden ni’n delio gyda nhw yn ddyrys iawn.
“Dw i’n gyffyrddus ein bod ni wedi cymryd y penderfyniadau cywir ac wedi gwneud y peth cywir o ran S4C, ac yn fwy pwysig efallai, y peth cywir o ran ein staff ni.
“Mae yna broblemau wedi codi yn hanes S4C yn y gorffennol, ond dw i’n credu bod rheiny wedi bod yn rhai damweiniol, os liciwch chi, lle mae pobol wedi gwneud penderfyniadau anghywir.
“Roedd y problemau roedden ni’n eu hwynebu yn llawer iawn anoddach gan bo nhw’n ymwneud â lles unigolion, a nifer o unigolion.
“Ond fel dw i’n dweud, dw i’n hapus bo ni wedi llwyddo i ddelio gyda rheiny, a bod S4C bellach mewn sefyllfa dda iawn.
“Mae yna Brif Weithredwr dros dro yn ei lle.
“Mae Sioned Wiliam yn dod gyda phrofiad, gyda dull o ddelio gyda phobol sydd yn parchu yr unigolion mae hi’n delio gyda nhw.”
Cyfnod newydd o dan gadeirydd newydd
“Fory, bydd Guto Bebb yn cymryd drosodd fel Cadeirydd dros dro,” meddai Rhodri Williams wedyn, wrth edrych tua’r dyfodol.
“Mae Guto wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers i fi fod yn Gadeirydd, yn rhywun roeddwn i’n chwarae rhan yn ei benodi fe.
“Felly, ynghyd â’r Cynllun Gweithredu sydd yn ei le i ddelio gyda phob agwedd o’r problemau gododd, dw i’n hapus iawn â lle dw i’n gadael y sefydliad.”