Y canwr ac ymgyrchydd Dafydd Iwan, yr awdur Owen Sheers a’r gyflwynwraig Kate Humble fydd yn arwain Gŵyl Lên Llandeilo fis yma.

Bydd y seithfed digwyddiad erioed yn cael ei gynnal yn y dref rhwng Ebrill 26-28.

Ymhlith yr awduron mae Meleri Wyn James a Sioned Erin Hughes, enillwyr Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol; Lesley Parr, enillydd categori Llyfr y Flwyddyn; a’r awduron enwog Julian Dutton, Sophie Buchaillard, Eloise Williams, Sian Northey, Myfanwy Alexander, Alun Ffred a Bethan Gwanas.

Bydd yr ŵyl yn agor gyda’r ddarlledwraig Kate Humble yn archwilio beth mae’n ei olygu i deimlo’n gartrefol, gan gynnwys myfyrdodau o’i thyddyn yn Nyffryn Gwy, sy’n cael eu cyflwyno yn ei llyfr diweddaraf Where the Hearth Is.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae Nerys Howell, cogyddes Prynhawn Da ar S4C, fydd yn rhoi arddangosiad coginio byw gyda ryseitiau o’i chyfrol Cywain, a John Devereux, y cyn-chwaraewr rygbi fydd yn rhannu hanesion o’r ystlys gyda’r cofiannydd Andy Howell.

Trafod materion dinesig

Mae gŵyl 2024 hefyd yn llwyfan ar gyfer trafodaeth am y materion dinesig sydd o bwys i bobol yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys awduron sy’n rhychwantu sbectrwm gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru, gan gyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Mae dod â phobol ynghyd o gymunedau amrywiol i rannu syniadau trwy’r grefft o adrodd straeon yn draddodiad oesol,” meddai Christoph Fischer, sylfaenydd a chyd-gadeirydd Gŵyl Lên Llandeilo.

“Felly, yn ogystal â rhoi sylw i storïwyr crwydrol a rhai o nofelwyr a beirdd mwyaf adnabyddus a blaengar ein cenedl, mae’r ŵyl eleni yn edrych ar adegau tyngedfennol yn hanes diweddar Cymru a’u heffaith ar gymdeithas.

“Byddwn yn trafod materion yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol Gymreig, fel iaith a phrotest, ac yn ystyried sut olwg sydd ar y dyfodol i Gymru.

“Mae dros draean o’r rhaglen eleni yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg, gyda chyfieithiadau ar y pryd ar gael ar gyfer llawer ohoni.

“Rydyn ni’n angerddol am adrodd straeon yn Llandeilo, ac rydyn ni’n anelu at gynnal gŵyl lenyddiaeth sy’n siarad â phobol ar draws ein cymunedau a thu hwnt.”

Ynghyd â Dafydd Iwan, mae’r arlwy yn cynnwys Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru, fydd yn trafod gwleidyddiaeth, diwylliant a chwaraeon diweddar Cymru gyda’r newyddiadurwr Ben Wildsmith.

Bydd Andrew Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru, yn ystyried dyfodol posib i Gymru yn wyneb ansicrwydd amgylcheddol, tra bod yr hanesydd Dr Wyn Thomas yn cymharu llifogydd yng Nghwm Tryweryn â chynlluniau dadleuol ar gyfer peilonau ar hyd Afon Tywi.

Yn ymuno â nhw ar y rhaglen mae Dr Emma Schofield, golygydd Woman’s Wales?, y newyddiadurwraig Gwenfair Griffith, yr ymgyrchydd afonydd Angela Jones, a straeon gan ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith.

Bydd panel o awduron o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli’n nodweddiadol yn trafod yr hyn mae Cymru a Chymreictod yn ei olygu iddyn nhw, a hynny yn rhan o banel dan arweiniad Newyddiaduraeth Cynhwysol Cymru.

I nodi 40 mlynedd ers streic y Glowyr yng nghymoedd y de, bydd y newyddiadurwraig Amanda Powell a’r ffotograffydd Richard Williams yn ailymweld â digwyddiadau allweddol y streic gyda’r bardd, nofelydd a dramodydd Owen Sheers.

Bydd Owen Sheers hefyd yn cyflwyno ei lyfr plant newydd Drew, Moo and Bunny Too, ac yn trafod ei brofiadau yn ysgrifennu yn y genre am y tro cyntaf.

Gŵyl y Plant

Bydd awduron plant o bob rhan o Gymru yn ymddangos yn rhaglen gyntaf yr ŵyl, sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth plant.

Bydd “Gŵyl y Plant yn yr Ŵyl Lên” yn cynnwys gweithdai creadigol ar ysgrifennu a darlunio, perfformiadau crefft a drama, yn ogystal â rhaglen allgymorth i ysgolion lleol yn y dyddiau cyn y penwythnos.

Bydd yn cael ei chynnal yn yr Hen Farchnad ar ei newydd wedd yn Llandeilo.

Bydd yn cael ei harwain gan Jonny Duddle, awdur a darlunydd y gyfres The Pirates, gydag Alex Wharton, Bardd Plant (Saesneg) Cymru, a Nia Morais Bardd Plant (Cymraeg) Cymru.

Mae’r rhaglen yn cynnwys awduron plant adnabyddus fel Eloise Williams, Lesley Parr, Atinuke, Meleri Wyn James, Alun Davies, Carys Haf Glyn a Claire Fayers.

“Dyma’r tro cyntaf i ni gael rhaglen bwrpasol i bobol ifanc yn yr ŵyl, ac mae’n argoeli i fod yn benwythnos llawn cyffro i blant Cymru o bob oed,” meddai Kate Glanville, y nofelydd a chyd-gadeirydd Gŵyl Lên Llandeilo.

“Bydd llawer o weithdai i blant a rhieni i’w mwynhau, straeon ar thema’r Mabinogion, a cherddi a gwaith celf yn cael eu harddangos o’n gweithgareddau gydag ysgolion.”

Gweithdai

Mae’r gweithdai dros y tridiau’r penwythnos yn cynnwys gwneud modelau clai ac animeiddio ffrâm-wrth-ffrâm dan arweiniad Aardman Animations, enillwyr Gwobrau’r Academi, cerflunwaith papur, rhwymo llyfrau a darluniau a barddoniaeth i blant.

Bydd dathliadau’n mynd ymlaen i’r nosweithiau ar draws Llandeilo, gyda noson o adrodd straeon yn Gymraeg a Saesneg dan ofal y Cyfarwydd Ceri Phillips; taith gerddorol o amgylch y genedl gyda’r ddeuawd Fiddlebox; a chwedlau gwerin traddodiadol a cherddoriaeth gyda’r delynores Sioned Webb.

Mae Gŵyl Lên Llandeilo yn cael ei chefnogi gan Gynllun Grant Cymunedol Rheilffordd Calon Cymru, Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Tref Llandeilo, ac yn cael ei noddi gan lawer o fusnesau’r dref.