Mae gwraig y bardd Benjamin Zephaniah yn dweud bod ei gŵr “wedi gadael gwaddol wedi’i orchuddio mewn cariad”.

Daw neges Qian Zephaniah bedwar mis ers i’w gŵr farw o diwmor ar yr ymennydd yn 65 oed ym mis Rhagfyr.

Roedd y bardd o Birmingham, oedd o dras Jamacaidd, yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod a’r Gymraeg, ac yn credu y dylid dysgu Cymraeg i blant mewn ysgolion ledled y Deyrnas Unedig.

Yn 2015, bu’n ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Meifod i greu rhaglen ddogfen am ein hiaith a’n traddodiadau Eisteddfodol.

Yn dilyn y profiad hwnnw, dywedodd y dylai’r Gymraeg gael ei dysgu i blant mewn gwledydd eraill Prydain er mwyn iddyn nhw gael dysgu am “ddiwylliannau ac ieithoedd eraill”.

Awgrymodd hefyd y gallai Lloegr elwa’n fawr o gynnal Eisteddfod, gan ddweud bod pobol ifanc Cymraeg i’w gweld yn llawer mwy parod i ganu a pherfformio na’u cyfoedion o Loegr.

‘Ddim yn ŵyl elitaidd’

Dywedodd y bardd nad oedd yn teimlo fod yr Eisteddfod hanner mor “elitaidd” â gwyliau llenyddol a diwylliannol eraill, a’i bod hi’n “rhyfeddol i mi fod bron pawb dwi’n eu cyfarfod yn gallu canu”.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod y Cymry yn gwerthfawrogi eu hiaith yn fwy na’r Saeson am ei bod dan fygythiad, gan ddweud y dylai pobol yng ngweddill Prydain fod yn fwy ymwybodol o’r Gymraeg.

“Dyna’r rheswm dwi’n dweud y dylai’r iaith Gymraeg gael ei dysgu mewn ysgolion yn Lloegr,” meddai Benjamin Zephaniah wrth BBC Cymru Fyw ar y pryd.

“Mae Hindi, Tsieinëeg a Ffrangeg yn cael eu dysgu, felly pam ddim Cymraeg? A pham ddim Cernyweg? Maen nhw’n rhan o’n diwylliant.”

‘Mynegiant gwych o ddiwylliant Cymraeg’Mewn darn blog ar ei wefan ei hun, dywedodd fod yr Eisteddfod “yn fynegiant gwych o ddiwylliant Cymraeg”, fod “peth ohono’n rhyfedd” oherwydd “ei gwreiddiau a’i gwleidyddiaeth”.

“Roeddwn i wrth fy modd â hi,” meddai.

“Dw i’n ategu’r hyn ddywedais i am yr iaith Gymraeg.

“Mae Prydain yn lle amlddiwylliannol, ac os gallwn ni ddysgu Hindi, Almaeneg, Tsieineeg, Ffrangeg a Phwyleg yn ein hysgolion, dw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na allwn ni ddysgu Cymraeg, Cernyweg neu Sgots.

“Nid pob ysgol sy’n dysgu Hindi neu Tsieineeg ac ati, felly nid pob ysgol ddylai ddysgu Cymraeg, Cernyweg neu Sgots, ond nhw yw ein hieithoedd brodorol ac felly dylen nhw fod yn opsiynau hefyd.”

Wrth gyfeirio at yr ymateb gafodd y rhaglen, dywedodd iddo gael ei “gyffwrdd” gan y sylwadau positif.

‘Diolch’

“Helo, Qian Zephaniah dw i, gwraig Benjamin Zephaniah,” meddai ar X (Twitter gynt).

“Diolch yn fawr i chi gyd am y cariad wnaethoch chi ei ddangos i Benjamin, a diolch yn fawr i chi gyd am y negeseuon hyfryd anfonoch chi ataf ar ôl iddo fe farw.”

Mae’r neges yn mynd yn ei blaen i egluro y bu bron iddi hithau farw y llynedd, a bod ei gŵr wedi bod yn gofalu amdani.

“Fe adawodd e waddol wedi’i orchuddio mewn cariad,” meddai.

“Bydda i a fy nhîm yn rhoi diweddariadau i chi ynghylch y pethau hyfryd niferus fydd yn digwydd yn enw hyfryd y dyn rydyn ni’n ei garu, Benjamin Zephaniah.”