Mae cronfa sy’n cynnig arian i gynlluniau sydd er budd y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg wedi agor i geisiadau.
Pwrpas Cronfa Nawdd Eos, yr Asiantaeth Hawliau Darlledu, yw cefnogi cynlluniau fydd yn ysbrydoli cerddorion, cyfansoddwyr, artistiaid, hyrwyddwyr, trefnwyr a chynhyrchwyr o Gymru i gyfrannu i’r diwydiant cerddoriaeth.
Ymysg y prosiectau y gall y Gronfa eu hariannu mae costau llogi offer, ffioedd arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth, ffioedd ysgrifennu a chyfansoddi, costau recordio, costau creu cwmni recordio neu label, a chostau marchnata.
Mae’r alwad ar agor i geisiadau rhwng £100 a £1,000, ac mae’r gronfa’n werth £10,000 i gyd.
Yn y gorffennol, mae’r Gronfa wedi rhoi cyfraniad i Sŵnami gynhyrchu albwm, i Gai Toms gael nawdd i brynu offer stiwdio newydd, ac i Bwncath fynd ar daith i hyrwyddo’u halbwm diwethaf.
Mae’r ffurflen ar gyfer Cronfa Nawdd Eos 2024 ar gael nawr, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Mai 1.
“Y bwriad yw ceisio cynorthwyo’r diwydiant cerddorol Gymraeg drwy gynnig nawdd mewn ffordd syml a didrafferth, a heb y rhwystrau arferol,” meddai Dafydd Roberts ar ran Bwrdd Eos.