Mae Francesca Sciarrillo, colofnydd Lingo Newydd lingo360, ymhlith enillwyr cystadleuaeth stori fer y gwasgnod newydd Sebra.

Mae Sebra, sydd newydd gael ei sefydlu, yn arbenigo mewn llyfrau Cymraeg i oedolion.

Y briff gafodd ei roi i ymgeiswyr y gystadleuaeth oedd ysgrifennu stori Gymraeg wreiddiol hyd at 3,000 o eiriau ar y themâu rhyddid a hunaniaeth.

Nod Sebra oedd i annog ymgeiswyr i greu gwaith unigryw a ffres fyddai’n gwthio ffiniau ac yn ysgogi trafodaethau ehangach.

Yr enillwyr

Mae Francesca Sciarrillo yn byw yn Rhewl yn Sir Ddinbych.

Mae hi’n Swyddog Hyrwyddo Darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru, ac mae hi hapusaf pan mae hi’n darllen.

Mae hi’n hanu o deulu Eidalaidd, gyda’i neiniau a’i theidiau wedi symud i Gymru yn y 1960au.

Un o Drelewys yng Nghwm Taf Bargoed yw Lois Roberts, sy’n dal i fyw yn ei milltir sgwâr ac yn gweithio yng Ngholeg y Cymoedd.

Mae hi’n byw gyda’i gŵr Llion a dau fab.

Daw Lleucu Non o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol, ond bu’n byw yn Aberystwyth ers 2020, ac mae hi’n astudio ar gyfer MPhil Ysgrifennu Creadigol yno.

Bydd y straeon buddugol yn ymddangos mewn casgliad o straeon byrion gan Sebra yn ddiweddarach eleni.

“Mae darganfod talent newydd yn ganolog i’n hamcanion fel gwasgnod ac roedd derbyn cynifer o geisiadau ar gyfer ein cystadleuaeth Stori Fer yn profi bod yna awduron dawnus a brwdfrydig yn ysgrifennu yn y Gymraeg heddiw,” meddai Gwennan Evans, Golygydd Creadigol a Rheolwr Rhaglen Cyhoeddi Sebra.